Rheoli prosiectau yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chytuno ar baramedrau prosiect a monitro a rheoli gwaith er mwyn sicrhau caiff allbynnau creadigol dymunol o ansawdd priodol eu cyflawni a hynny gan gadw at y cyfyngiadau o ran y gyllideb ac adnoddau.
Mae’n ymwneud â blaenoriaethu gweithgareddau, arwain pobl eraill, cynllunio wrth gefn ac ymateb i newidiadau.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y disgwyliadau o ran ansawdd ac egluro unrhyw amwysedd ar gyfer allbynnau creadigol
- nodi’r cyllidebau, y graddfeydd amser a’r adnoddau ar gyfer y prosiect
- amcan y cyfarpar, y deunyddiau a’r bobl sydd eu hangen i fodloni galwadau creadigol a thechnegol y prosiect
- nodi cerrig milltir allweddol a chynllunio sut i’w cyflawni
- caffael pobl gyda’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y gwaith
- cyflwyno cynlluniau a cheisio adborth gan y bobl sydd ynghlwm
- cadarnhau a chytuno ar y trefniadau ar gyfer ymdrin â threuliau annisgwyl
- defnyddio gwybodaeth i gymharu cynnydd yn erbyn cynlluniau ac amserlenni
- monitro’r gweithgareddau a’r cynnydd i helpu adnabod unrhyw wyriadau oddi wrth y cynlluniau gwreiddiol
- rhannu’r newidiadau i gynlluniau sydd wedi’u cytuno arnyn nhw’n flaenorol yn ôl yr angen
- awgrymu a chytuno ar ddatrysiadau, pan fo gwyriadau oddi wrth yr amserlen a’r cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gwybod am ofynion gan gynnwys newidiadau i gynlluniau blaenorol
- y dulliau o sicrhau ansawdd a beth sydd ei angen ar gyfer y prosiect
- rolau a chyfrifoldebau’r bobl sydd ynghlwm â phwy sy’n gwneud penderfyniadau
- pwysigrwydd deall cyd-ddibyniaethau a gwella ansawdd deialog cynnar
- yr wybodaeth sydd ei hangen gan wahanol bobl yn ystod pob cam
- y cyfarpar sydd ei angen ac unrhyw ofynion penodol sy’n ymwneud ag o
- y meini prawf a’r dulliau ar gyfer asesu nifer a manylion y deunyddiau
- y ffyrdd o werthuso perfformiad y deunyddiau a’r cyfarpar
- sut a phryd i adnabod sgiliau, cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol a ble i’w caffael
- y gofynion cytundebu ac yswiriant ar gyfer y gwaith a’r prosesau i’w dilyn
- y ffynonellau gwybodaeth ynghylch cynnydd
- sut i fonitro a gwirio’r gweithgareddau a’r cynnydd
- y ffyrdd o ddod i gytundeb ynghylch y rolau a’r cyfrifoldebau
- sut i adnabod gwyriadau gwirioneddol a phosibl oddi wrth yr amserlenni a’r cynlluniau
- pryd i gymryd yr awenau gan eraill er mwyn datrys unrhyw broblemau
- y dulliau cyfathrebu
- y mathau o ddigwyddiadau annisgwyl allai godi a’r ffyrdd o fynd i’r afael â nhw
- sut i adnabod a gwerthuso buddion ac anfanteision gwahanol ffyrdd o leihau costau ac arbed amser
- yr achosion cyffredin o oedi a sut gellir osgoi neu ymdrin â’r rhain
- y prosesau a’r ffurfiau disgwyliedig ar gyfer cyflwyno gwybodaeth a’u rhyngwyneb gyda rhaglenni safon diwydiant
- y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau gan gynnwys cyflogaeth, iechyd a diogelwch, hawliau eiddo deallusol ac ymwadiadau a hawliau moesegol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS7
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rheoli prosiectau; graddfeydd amser; adnoddau; treuliau annisgwyl; cytundebau; cyd-ddibyniaethau; diwydiannau creadigol;