Caffael gwasanaethau neu gyflenwadau allanol yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis a dethol cyflenwyr ar gyfer gwasanaethau neu gyflenwadau allanol, trin a thrafod amodau a rheoli gwasanaethau neu gyflenwadau sydd wedi’u caffael yn allanol.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r briff ar gyfer y gwaith sydd i’w gaffael
- briffio’r cyflenwyr am y gofynion a’r cyfyngiadau
- dewis a dethol cyflenwyr i fodloni’r gofynion
- gwirio a chadarnhau bod gwasanaethau neu gyflenwadau’n bodloni eich gofynion
- gwneud penderfyniadau caffael gan ddilyn protocolau’r sefydliad
- dod i gytundeb gyda chyflenwyr ynghylch beth fyddan nhw’n ei gyflawni ac yr amodau ynghlwm â hynny
- llunio contractau i gadarnhau’r cytundebau gan ddefnyddio cymalau terfynu os oes angen
- cyfathrebu gyda chyflenwyr
- cadarnhau a chytuno ar drefniadau monitro perfformiad gyda chyflenwyr
- nodi a chofnodi’r rhesymau dros unrhyw broblemau gyda bodloni’r gofynion
- cytuno ar unrhyw addasiadau gyda chyflenwyr a’u hysbysu o’r goblygiadau
- trefnu taliad yn unol â’r graddfeydd amser a’r perfformiad y cytunwyd arnyn nhw/arno a chofnodi’r rhesymau am unrhyw daliad sy’n wahanol i’r cytundeb gwreiddiol
- cofnodi a datrys problemau a gweithredu er mwyn eu hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol, a cheisio cyngor cyfreithiol pan fo’n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y briff, y gyllideb a’r amserlen ar gyfer y gwaith
- protocolau a gweithdrefnau’r sefydliad wrth gaffael gwasanaethau neu gyflenwadau allanol
- camau allweddol proses tendro a sut i’w reoli
- sut i amharu cyn lleied â phosibl ar y cleient a’r busnes asiantaeth y gallai caffael ei achosi
- sut i ddiffinio’r meini prawf sgorio ar gyfer dewis a dethol cyflenwyr
- sut gellir dadansoddi amcan brisiau a thendrau er mwyn eu cymharu
- y paramedrau ar gyfer newidynnau allweddol, consesiynau neu gyfaddawdu posibl y gellir eu trin a thrafod wrth gaffael gwasanaethau neu gyflenwadau
- sut caiff contractau eu strwythuro, a sut caiff taliadau eu cyflwyno
- sut i gytuno ar safonau perfformiad o ran gwasanaeth neu gyflenwad
- sut i gaffael cyngor ynghylch ceisio iawndal am berfformiad anfoddhaol, gan gynnwys cymryd camau cyfreithiol
- y systemau ar gyfer cofnodi amrywiadau mewn perfformiad a’r camau unioni y cytunwyd arnyn nhw
- y gofynion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â chydweithio gyda chyflenwyr gan gynnwys yr angen am gytundebau peidio â datgelu (NDA’s)
- cynllunio wrth gefn sy’n ymwneud â’r gwaith sydd wedi’i gaffael
- pwysigrwydd yswiriant atebolrwydd
- dulliau cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreensSkills
URN gwreiddiol
SKSGS6
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwasanaethau; cyflenwadau; cyflenwyr; caffael; gofynion; cynlluniau wrth gefn; graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw; Cytundebau peidio â datgelu (NDAs); yswiriant atebolrwydd;