Rheoli cyllidebau yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro’r gyllideb yn erbyn cynllun. Mae’n ymwneud hefyd ag asesu goblygiadau unrhyw ailddyraniadau neu ailddosbarthiadau angenrheidiol o’r gyllideb a hysbysu’r bobl berthnasol o unrhyw newidiadau.
Gallai’r cyllidebau fod yn fewnol neu’n allanol i’r sefydliad.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro a rheoli cyllidebau i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n unol â’r cynlluniau cyllideb y cytunwyd arnyn nhw
- sicrhau bod y manylion llawn o ran gweinyddu, rheoli a gwario’r cyllidebau ar gael
- adnabod a chofnodi risgiau a threuliau annisgwyl allai effeithio ar gynlluniau’r gyllideb
- adnabod a dwyn i ystyriaeth adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen a’u goblygiadau ar gyllidebau
- adnabod achosion unrhyw amrywiadau sylweddol rhwng yr hynny a gafodd ei gyllidebu a’r hynny sydd wedi’i wario
- cynnig diwygiadau i gyllidebau mewn ymateb i amrywiadau neu ddatblygiadau na ragwelwyd
- caffael cytundeb am newidiadau i ddyraniadau o ran y cyllidebau
- defnyddio gwybodaeth monitro cyllidebau i baratoi cyllidebau yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr amcanion creadigol a sut maen nhw’n effeithio ar yr amcanion busnes
- y gyllideb y cytunwyd arni a phryd mae modd ei newid heb gymeradwyaeth
- y berthynas rhwng y gyllideb a’r cynllun
- sut i fonitro a rheoli’r gyllideb
- y prif achosion dros amrywiadau a sut i’w hadnabod
- y gwahanol fathau o gamau unioni i’w rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r amrywiadau sydd wedi’u nodi
- sut i ymdrin â risgiau a threuliau annisgwyl allai effeithio ar gyllideb
- sut i drin a thrafod, cytuno ar a chofnodi newidiadau i gyllidebau
- pwy sydd angen cytuno ar ddiwygiadau i gyllidebau
- pwy sydd angen eu hysbysu am berfformiad yn erbyn y gyllideb a’r newidiadau i’r gyllideb
- pwysigrwydd defnyddio gwybodaeth monitro’r gyllideb er mwyn paratoi cyllidebau yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS5
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Galwedigaethau Pren, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rheoli; monitro; cyllidebau; cost; dyraniadau; amcanion creadigol; amcanion busnes; treuliau annisgwyl; amrywiadau; diwydiannau creadigol;