Llunio cyllidebau yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSCMGS4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â llunio cynlluniau cyllideb yn y diwydiannau creadigol sy’n sicrhau caiff gwaith ei gyflawni i’r safon ofynnol, gan ddwyn i ystyriaeth effeithiolrwydd cost.

Mae gofyn i chi amcan neu ymchwilio costau, trin a thrafod cyllidebau fel eu bod yn ddigonol ar gyfer y gwaith a chytuno ar gyllidebau ac unrhyw is-gyllidebau a allai fod yn angenrheidiol.

Gallai’r cyllidebau fod yn fewnol neu’n allanol i’r sefydliad.

Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau’r amcanion busnes, y cwmpas, y graddfeydd amser a’r gyllideb gyffredinol
  2. cadarnhau’r amcanion artistig ac unrhyw ofynion arbennig a fyddai’n effeithio ar y gyllideb
  3. pennu’r gofynion o ran deunyddiau, technoleg, allanoli, cyflawni a phersonél a’u costau tebygol
  4. pennu maint y gyllideb sydd ar gael a pha ddyraniadau sydd wedi’u cyflawni eisoes
  5. adnabod a chofnodi lwfansau ar gyfer cronfeydd wrth gefn
  6. darparu cynrychiolaethau gweledol i egluro’r raddfa a’r mathau o ddeunyddiau sydd eu hangen
  7. cyfrifo a chyflwyno cyllidebau
  8. trin a thrafod a chyflwyno dadleuon strwythuredig i ategu cyllidebau arfaethedig
  9. cytuno ar gyllideb derfynol sy’n bodloni’r amcanion a’r fanyleb ar gyfer y prosiect
  10. cofnodi a chadarnhau’r holl gytundebau
  11. sicrhau caiff manylion y gyllideb a’r dyraniad arfaethedig eu cofnodi a’u bod ar gael yn ôl yr angen
  12. cadarnhau bod digon o arian parod os oes ei angen a bod trefniadau ar waith i’w gadw’n briodol yn unol â’r cyfarwyddiadau yswiriant
  13. cadarnhau cwmpas y gyfradd gyfnewid os oes angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manylion y prosiect cyffredinol, ei amcanion a’i raddfeydd amser
  2. ble i gaffael gwybodaeth am gyllidebau cyffredinol a dyraniadau presennol
  3. yr amcanion creadigol a sut maen nhw’n effeithio ar yr amcanion busnes
  4. pwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw i gaffael gwybodaeth ynghylch costau tebygol, yn fewnol, mewn sefydliadau partner ac yn allanol i’r sefydliad
  5. y berthynas rhwng y gyllideb a’r amserlen
  6. sut i gadarnhau bod eraill yn deall y raddfa a math a chost yr adnoddau sydd eu hangen
  7. beth yw hunan-gyflogaeth neu gyflogaeth o ran y criw a’r effaith ar y gyllideb
  8. sut i adnabod opsiynau sy’n cynnig y gwerth orau am arian
  9. y mathau o achlysuron allai godi, a sut i’w dwyn i ystyriaeth
  10. sut i adnabod y gofynion arian parod gydag yswirwyr
  11. sut i gyfrifo cyllideb
  12. sut i gyfrifo cyfraddau cyfnewid
  13. y penawdau cyllidebol y dylid eu defnyddio
  14. sut i gyflwyno cyllidebau i eraill
  15. sut i drin a thrafod a chyflwyno dadleuon strwythuredig i gefnogi maint a dyraniadau eich cyllidebau
  16. y gweithdrefnau ar gyfer cofnodi’r cyllidebau y cytunwyd arnyn nhw
  17. pwy sydd â’r hawl i fwrw golwg ar wybodaeth gyllidebol a phwy sydd angen bod ynghlwm â’r broses cytuno ar gyllidebau cychwynnol a diwygiedig
  18. pa becyn cyllidebu a rheoli ariannol i’w ddewis, a sut i’w ddefnyddio
  19. pryd mae’n briodol ceisio cyngor ariannol a sut i fanteisio arno

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS4

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

datblygu; cyllidebau; cost; dyraniadau; amcanion creadigol; amcanion busnes; diwydiannau creadigol;