Rheoli eich gwaith yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio yn y diwydiannau creadigol a hyrwyddo eich hun a’ch gwasanaethau i gyflogwyr neu gontractwyr posibl.
Mae gofyn ichi feddu ar ddealltwriaeth dda o sut i hyrwyddo eich llwyddiannau, meithrin eich cysylltiadau a rhwydweithiau ymhellach, a sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau caiff eich gwaith ei gyflwyno ar amser a’i fod yn bodloni’r briff
- cyfathrebu gydag eraill a gofyn am gymorth pan fo’i angen
- asesu problemau a dod o hyd i ddatrysiadau i gyflawni’r allbynnau a ddymunir
- adolygu gwaith gydag eraill a defnyddio adborth i ddiwygio gwaith pan fo angen
- addasu i newidiadau o ran gwaith, gofynion creadigol a datblygiadau technegol
- adnabod pryd y bydd newidiadau y gofynnir amdanyn nhw yn cael effaith andwyol ar y gyllideb, graddfeydd amser, y canlyniad terfynol neu rannau eraill o’r gwaith a chyfathrebu hyn
- cadw a darparu gwaith yn ôl yr angen
- cynnal cyfrinachedd yn unol â deddfwriaethau, rheoliadau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cyfeirio gwaith sydd y tu hwnt i’ch maes arbenigedd at bobl eraill
- sicrhau eich bod yn ymwybodol o arferion y diwydiant sy’n dod i’r amlwg a newidiadau mewn technoleg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli gofynion y briff
- y biblinell neu’r llif gwaith a sut mae eich rôl chi a rolau eraill yn berthnasol iddo
- sut y gall fod angen i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau newid i ymdrin â gofynion gwahanol ddarnau o waith
- goblygiadau newidiadau ar y gyllideb a’r adnoddau rydych chi ynghlwm â nhw
- sut i geisio a gweithredu ar adborth i wella eich gwaith
- sut i addasu llif gwaith neu biblinellau a chynllunio datrysiadau i ymdrin â newidiadau
- sut i weithio fel rhan o dîm
- sut i adnabod pryd y mae modd ail-ddefnyddio neu addasu syniadau neu waith blaenorol
- sut i gadw gwaith
- goblygiadau’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau sy’n ymdrin â Diogelu Data
- cyfyngiadau’r adnoddau a’r dechnoleg rydych chi’n eu defnyddio yn eich rôl
- y ffynonellau gwybodaeth am ddatblygiadau yn y diwydiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS3
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rheoli gwaith; gofynion creadigol; briff; adborth; diogelu data; diwydiannau creadigol;