Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i hybu’ch sgiliau a’ch profiad yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSCMGS2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi. Mae’n ymwneud â dysgu’r technegau a’r dulliau gweithio ynghyd â dysgu amdanoch chi’ch hun, y mathau o sgiliau rydych chi’n awyddus i’w datblygu a’r swydd yr hoffech chi fynd ymlaen i’w chyflawni.

Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydnabod cyfleoedd i ddatblygu eich gwaith
  2. adnabod y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n ddigonol yn eich rôl chi
  3. adnabod cydweithwyr a chysylltiadau y gallwch chi ddysgu ganddyn nhw a meithrin perthnasoedd gyda nhw
  4. adnabod ffynonellau i ddysgu am adnoddau, technoleg, cyfarpar a thechnegau
  5. ceisio adborth adeiladol am eich perfformiad a gwerthuso hyn  i adnabod anghenion datblygu
  6. gofyn cwestiynau i feithrin eich dealltwriaeth
  7. gofyn am gymorth pan fyddwch chi’n ansicr ynghylch sut i gyflawni tasg neu beth sydd ei angen
  8. canfod pwy sy’n gallu cynnig cymorth a chyngor dibynadwy fel bod modd i chi feithrin dealltwriaeth yn gyflym ac yn drylwyr
  9. creu cyfleoedd i ddysgu am y gwaith a chynorthwyo gyda thasgau
  10. dysgu am brotocolau, safonau, arferion, ac unrhyw adrannau neu brosesau eraill sydd ynghlwm a sut mae’r bobl eraill sydd ynghlwm yn cyflawni eu swyddi
  11. cynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun i ddiweddaru ac ychwanegu at eich sgiliau a’ch gwybodaeth
  12. gosod ac adolygu amcanion ar gyfer anghenion hyfforddiant, perfformiad a chynnydd
  13. adnabod y rolau swyddi posibl y gallech chi fod yn awyddus i’w cyflawni
  14. adnabod y cam nesaf i ddatblygu eich gyrfa

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd datblygu eich sgiliau a sut gallai effeithio ar eich gyrfa
  2. sut i wirio bod eich disgwyliadau gyrfa a dysgu yn realistig ac yn gyraeddadwy
  3. sut i ddangos i eraill eich bod yn deall y pwysau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm â’r gwaith
  4. sut a phryd i ofyn cwestiynau am bethau nad ydych chi’n eu deall
  5. eich arddull dysgu eich hun
  6. sut i asesu ansawdd gwaith fel ei fod yn bodloni safonau disgwyliedig y diwydiant
  7. cynllun y gweithle, y bobl sydd ynghlwm a sut caiff gwahanol leoliadau a chyfleusterau eu cyfeirio atyn nhw
  8. y ffynonellau gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd
  9. y cyfarpar gallwch chi ei ddefnyddio a’r tasgau y byddwch chi’n cynorthwyo gyda nhw
  10. sut i adnabod mentoriaid posibl a meithrin perthynas mentora cynhyrchiol
  11. sut i reoli eich datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau â’r wybodaeth ddiweddaraf

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS2

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

sgiliau; profiad; dysgu; cyfleoedd; datblygu; datblygiad proffesiynol parhaus; mentora; diwydiannau creadigol;