Cynnig cyfarwyddyd creadigol a strategol ar gyfer prosiectau’r diwydiant creadigol
URN: SKSCMGS17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i ddeall a nodi gofynion a/neu ddiben creadigol a masnachol lefel-uchel y prosiect.
Mae gan y swyddogaeth hon berthynas agos â rheoli prosiect ‘pur’ ond mae’n canolbwyntio ar ofynion creadigol y prosiect yn hytrach na’r dulliau i’w gynnal, fodd bynnag; caiff y ddwy swyddogaeth eu cyfuno’n ymarferol yn aml.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a phennu’r paramedrau dylunio, technegol a masnachol
- llunio datrysiadau i fodloni gofynion o fewn y paramedrau dylunio
- dewis technolegau a dulliau i gyflawni’r gwaith
- pennu gofynion y gwaith
- cysylltu gyda staff strategol, creadigol, technegol, rheoli prosiect a rheoli i fodloni’r gofynion
- cysylltu gyda noddwyr prosiect allanol a/neu fewnol i egluro eu gofynion a’u disgwyliadau
- cysylltu gyda’r cleient i gaffael cymeradwyaeth ar gyfer y gwaith
- gwerthuso a chynnig adborth adeiladol am waith creadigol a thechnegol sydd wedi’i gynhyrchu gan eraill
- argymell newidiadau dylunio dichonol lle’n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr adnoddau a’r graddfeydd amser sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith
- y gwahanol sgiliau arbenigol y gallai fod eu hangen ar gyfer prosiect penodol
- anghenion a disgwyliadau staff dylunio a chynhyrchu eich sefydliad
- natur busnes y cleient a’r cyd-destun gofynnol ar gyfer y cynnyrch
- sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r gwahanol bobl sydd ynghlwm â’r gwaith datblygu
- sut i werthuso gwaith creadigol a thechnegol i sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion
- sut i gysoni gofynion cleientiaid, defnyddwyr a masnachol
- y gwahanol dechnolegau, llwyfannau, gwasanaethau ar-lein, offer, ffurfiau, a dulliau creadigol neu dechnegol sydd ar gael, a’u manteision ac anfanteision
- sut i adnabod pa dechnolegau, offer a dulliau creadigol neu dechnegol i’w defnyddio
- sut i gyflwyno gwaith i’w gymeradwyo, rheoli ceisiadau am newidiadau a chaffael cymeradwyaeth
- y tueddiadau cyfredol o ran dylunio, cysyniadau a’r defnydd o dechnegol diwydiant
- yr angen i ddwyn i ystyriaeth cyflawni aml-sianel ac effaith posibl hyn ar ddylunio a datblygu
- pwysigrwydd rheoli prosiect, gan gynnwys yr angen i gaffael cymeradwyaeth ar gyfer un cam allweddol cyn bwrw iddi i’r cam nesaf
- pwysigrwydd cyfarwyddyd creadigol cryf ac atebolrwydd pendant yn y tîm
- trosolwg o’r prosesau a methodoleg rheoli prosiect
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS17
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
prosiect; gofynion creadigol; paramedrau dylunio; strategol; creadigol; technegol; adnoddau; graddfeydd amser; disgwyliadau; diwydiannau creadigol;