Cytuno ar ofynion a pharamedrau ar gyfer allbynnau creadigol yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSCMGS16
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chaffael, dadansoddi a dehongli’r briff creadigol a’r wybodaeth berthnasol i adnabod y fframwaith, y gofynion a’r paramedrau cyffredinol ar gyfer eich gwaith a sicrhau bod ganddo’r arddull a’r effaith briodol.

Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau a dadansoddi gwybodaeth ynghylch y gofynion a’r paramedrau fyddai’n effeithio ar natur a gweithrediad yr allbynnau creadigol
  2. egluro a chadarnhau gwybodaeth am ofynion a pharamedrau
  3. pennu’r gofynion o ran cysondeb
  4. cadarnhau’r arddull gweledol a’r effaith a fwriedir gyda’r gwneuthurwyr penderfyniadau priodol
  5. adnabod y priodweddau dymunol o’r wybodaeth a’r manylebau perthnasol
  6. caffael cyngor arbenigol pan fo gwaith sydd wedi’i nodi y tu hwnt i’ch arbenigedd eich hun
  7. asesu’r allbynnau creadigol, datrysiadau technegol neu dechnegau blaenorol sydd wedi llwyddo mewn amgylchiadau tebyg at eu defnydd
  8. llunio manyleb sy’n diwallu anghenion y prosiect
  9. cadarnhau bod y gallu i gyflawni’r gwaith yn cydymffurfio gyda chyfyngiadau’r prosiect o ran y gost a’r amser
  10. cadarnhau unrhyw newidiadau y gofynnir amdanynt gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’u hymgorffori nhw yn y manylebau gofynion
  11. adnabod cyfleoedd pellach i ddefnyddio allbynnau creadigol i hybu llwyddiant creadigol a masnachol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr amcanion ar gyfer yr allbwn creadigol a’r bwriadau artistig y mae’n ei ategu
  2. sut i fanteisio ar, dadansoddi a dehongli’r briff creadigol
  3. pwy sy’n gwneud penderfyniadau a sut i egluro’r gofynion, yr arddull weledol a’r paramedrau iddyn nhw
  4. sut i addasu gofynion yn sgil newidiadau gofynnol gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau
  5. y camau gweithredu pan nad oes modd bodloni’r cais am newid
  6. sut mae’r agweddau a’r cyfleoedd yn amrywio i weddu i wahanol gynyrchiadau
  7. sut i adnabod effaith gofynion, paramedrau a chynlluniau’r cynhyrchiad ar ddatblygiad allbynnau creadigol
  8. y ffynonellau gwybodaeth ar yr allbynnau creadigol a’r datrysiadau technegol presennol
  9. galluoedd a chyfyngiadau’r dechnoleg arfaethedig ac sydd ar gael
  10. sut i werthuso’r allbynnau creadigol, y datrysiadau technegol a’r datrysiadau cysyniadol presennol ar gyfer y gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS16

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Gweithwyr Addysgu Proffesiyno, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cytuno; cadarnhau; dadansoddi; paramedrau; briff; arddull weledol; effaith arfaethedig; allbwn creadigol; gofynion y cynhyrchiad; diwydiannau creadigol;