Cyflwyno syniadau a gwybodaeth i eraill yn y diwydiannau creadigol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno syniadau a gwybodaeth mewn ffordd ddarbwyllol. Gellir cyflwyno’r syniadau a’r wybodaeth ar ffurf cyflwyniad ar lafar, naill ai wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn neu ar ffurf cyflwyniadau, tendrau, ceisiadau neu adroddiadau ysgrifenedig, neu gymysgedd o’r ddau.
Mae’n ymwneud ag adnabod ystod lawn o fanteision eich cynnig, gan strwythuro eich gwybodaeth mewn ffordd sydd fwyaf perthnasol i’ch cynulleidfa darged a rhoi cynnig iddyn nhw ddychwelyd am ragor o wybodaeth. Gallwch wneud hyn ar ran eich sefydliad eich hun, fel gweithiwr llawrydd neu ar ran sefydliad arall.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy
- cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n pwysleisio manteision eich cynnig
- dwyn i ystyriaeth yr effaith ar gyllideb y gynulleidfa darged a’r llwyfan cyflwyno sydd wedi’i nodi ar gyfer y cynnig
- dewis yr wybodaeth sydd o’r diddordeb mwyaf i’ch cynulleidfa ac sy’n portreadu eich cynnig yn y ffordd orau posibl
- gwirio bod eich pwyntiau allweddol wedi’u cyflwyno mewn ffordd eglur i’ch cynulleidfa
- defnyddio iaith sy’n briodol i’r gynulleidfa
- defnyddio cymhorthion gweledol sy’n addas ar gyfer y dull cyflwyno
- cydymffurfio gydag unrhyw gyfyngiadau o ran amser neu hyd a chyfyngiadau o ran y gynulleidfa
- cyflwyno cyflwyniadau ar lafar mewn dull trefnus, eglur a hyderus
- mesur ymateb y gynulleidfa yn ystod cyflwyniadau ar lafar ac addasu’n unol â hyn
- rhoi cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau
- ymateb i gwestiynau gan ddarparu’r wybodaeth y mae’r gynulleidfa yn gofyn amdani
- gwerthuso llwyddiant eich cyflwyniad
- adnabod newidiadau a fyddai’n gwella eich cyflwyniad yn y dyfodol
- cadw gwybodaeth yn unol â gofynion y sefydliad a’r ddeddfwriaeth diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod y gynulleidfa darged a’r llwyfan cyflwyno ar gyfer y cynnig
- sut i adnabod yr wybodaeth sydd ei hangen ar y gynulleidfa
- sut i gyflwyno syniadau a gwybodaeth mewn ffordd sy’n portreadu eich cynnig yn y ffordd orau
- cynnwys a strwythur cynigion a’r pwyntiau y mae’r rhain yn mynd i’r afael â nhw
- sut i strwythuro syniadau a gwybodaeth i ddarbwyllo a chyflwyno eich neges yn eglur
- sut i drefnu a chyflwyno gwybodaeth ar ddichonoldeb cynigion
- sut i ddehongli gofynion dogfen briff neu dendr
- pam ei bod hi’n bwysig meithrin perthynas gyda’r gynulleidfa
- buddion ac anfanteision y gwahanol ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth
- sut i adnabod y ffordd y mae’r gynulleidfa darged yn dymuno derbyn eich syniadau a’ch gwybodaeth
- buddion ac anfanteision gwahanol gymhorthion gweledol a’r ffyrdd o gyflwyno syniadau a gwybodaeth
- diben a manteision crynhoi nodweddion pwysig a phwyntiau allweddol a sut i wneud hyn ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
- effaith posibl goslef, cyflymder ac uchder eich iaith a’ch iaith corff ar eich cynulleidfa
- buddion ac anfanteision defnyddio cyfarpar cyflwyno gwahanol
- sut i annog cwestiynau mewn cyflwyniadau ar lafar ac ysgrifenedig
- diben, manteision a’r ffyrdd o werthuso llwyddiant cyflwyniadau
- sut i gadw gwybodaeth i fodloni gofynion y sefydliad a’r ddeddfwriaeth diogelu data