Ymchwilio’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSCMGS13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymchwilio’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni eich gwaith ymhellach. Mae’n ymwneud â chynllunio a threfnu’r ymchwil i fodloni’r terfynau amser dan sylw.

Mae hefyd gofyn i chi nodi ffynonellau, casglu a dehongli deunydd neu wybodaeth sy’n berthnasol i’r briff a defnyddio canfyddiadau eich ymchwil i lywio eich gwaith.

Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau’r amcanion penodol ar gyfer yr ymchwil
  2. cadarnhau’r amseriad a’r ffurf derfynol ar gyfer yr ymchwil
  3. cynllunio beth sydd ei angen arnoch a threfnu’ch ymchwil i sicrhau eich bod yn cyflawni’r gwaith yn brydlon
  4. nodi’r ffynonellau a’r technegau ymchwil i’w defnyddio
  5. cyfarwyddo unrhyw gynorthwywyr ar eu rôl sydd ynghlwm â’r gwaith ymchwil
  6. nodi a yw’r deunydd presennol yn berthnasol ac yn gyfredol
  7. casglu a dehongli’r canfyddiadau wrth ichi eu canfod
  8. adnabod unrhyw ddiffygion a’r ffynonellau gwybodaeth y dylech chi eu defnyddio i’w bodloni
  9. gwirio bod yr wybodaeth rydych chi’n dymuno’i defnyddio ar gael a bod hawl cyfreithiol gennych chi i’w defnyddio
  10. casglu’r set derfynol o ganfyddiadau ac asesu pa wybodaeth sy’n bodloni’r amcanion ymchwil
  11. paratoi’r canfyddiadau mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â’r holl amcanion
  12. cyflwyno’r deunydd ymchwil ar y ffurf briodol ar gyfer y defnydd a fwriedir
  13. cofnodi’r holl ffynonellau gwybodaeth a chadw hyn ar y cyd â chanlyniadau eich ymchwil
  14. cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  15. cadarnhau bod eich canfyddiadau a’ch casgliadau yn diwallu anghenion y briff ymchwil
  16. asesu a fydd ymchwil neu ddatblygiad dilynol gan eraill yn golygu bod eich canfyddiadau chi’n anghyfredol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cwmpas yr ymchwil y mae gofyn i chi ei gyflawni
  2. yr amser y mae angen i chi ei gwblhau erbyn
  3. dyfnder y wybodaeth sydd ei angen a sut mae’n berthnasol i’r darlun mwy
  4. y technegau ymchwil i gynllunio a threfnu’r broses
  5. y prif ffynonellau gwybodaeth
  6. goblygiadau ac effeithiau hawlfraint, cymeradwyaeth a hawliau i ddefnyddio gwybodaeth ar yr ymchwil
  7. y ffyrdd o ddefnyddio’r ffynonellau gwybodaeth
  8. y prif gysylltiadau a’r ffynonellau gwybodaeth a’r datblygiadau yn y maes caiff ei ymchwilio
  9. y dulliau o gasglu a dehongli gwybodaeth
  10. y technegau ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth
  11. pryd mae’n bwysig bwrw golwg arall ar ymchwil er mwyn sicrhau nad yw’r ymchwil dilynol yn golygu bod eich canfyddiadau chi’n anghyfredol
  12. goblygiadau’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyfredol sy’n ymdrin â diogelu data
  13. y gweithdrefnau sefydliadol a’r llinellau amser ar gyfer trin data a dileu data, cofnodion neu wybodaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS13

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ymchwil; cwmpas; amcanion; graddfeydd amser; canfyddiadau; cyfrinachedd; gwybodaeth; casgliadau; ffynonellau; diwydiannau creadigol;