Datblygu a defnyddio rhwydweithiau proffesiynol yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSCMGS12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu rhwydweithiau proffesiynol i ategu eich gwaith cyfredol a’ch gwaith yn y dyfodol yn ogystal â’ch datblygiad personol.
Gallai ystod eang o bobl fod yn rhan o’r rhwydweithiau hyn, gan gynnwys cydweithwyr rydych chi’n gweithio gyda nhw’n uniongyrchol, pobl o sefydliadau a busnesau eraill, cleientiaid a chwsmeriaid, aelodau o gymdeithasau proffesiynol a masnach a chysylltiadau’r cyfryngau cymdeithasol.

Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydweithio a meithrin rhwydwaith o gysylltiadau busnes
  2. cysylltu gyda’r bobl berthnasol yn gyntaf pan welwch fod cyfle i rwydweithio
  3. meithrin perthynas ag eraill
  4. cyfathrebu neges gyson, gan gynnwys eich arwyddion di-eiriau
  5. rhoi gwybod i bobl beth sydd gennych chi i’w gynnig a sut byddai’n ategu eu ffordd o weithio
  6. cysylltu gyda chymaint o bobl â phosibl mewn sefyllfa rwydweithio
  7. bwrw iddi gydag ymrwymiadau i gysylltu ymhellach neu gyflawni camau gweithredu
  8. argymell pobl yn eich rhwydwaith cysylltiadau pan na allwch chi ddarparu gwasanaeth neu gynnyrch eich hunain
  9. canfod ffyrdd o gynnal cyswllt gyda chysylltiadau hen a newydd
  10. adnabod perthnasau busnes sydd ddim mor effeithiol ag y dylen nhw fod a cheisio’u gwella nhw
  11. parchu’r gwahaniaethau rhwng pobl o wahanol ddiwylliannau neu gefndiroedd
  12. cydnabod fod gan bobl wahanol ddulliau gweithredu ac addasu’ch ymddygiad i fodloni hyn
  13. sefydlu a chynnal presenoldeb ar-lein proffesiynol yn ôl yr angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i feithrin perthnasoedd pan fyddwch yn cwrdd â phobl
  2. sut gallai iaith corff ddylanwadu ar eich cyfathrebiadau gydag eraill
  3. sut i wrando’n astud a dangos eich bod chi wedi gwrando’n weithredol
  4. sut i adnabod cyfleoedd a chanfod cysylltiadau posibl gydag eich sefyllfa eich hun
  5. sut i hyrwyddo'ch gwaith mewn ffordd fyddai’n annog pobl eraill i ganfod mwy amdanoch chi
  6. pwysigrwydd ymddwyn yn ddidwyll
  7. beth sydd angen i chi ei wneud i feithrin a chynnal parch ac ymddiriedaeth
  8. sut i gydnabod a pharchu ffiniau yn eich perthnasoedd gydag eraill
  9. sut byddwch chi’n elwa drwy gyflwyno a chyfeirio eich cysylltiadau at eraill pan fo cyfle i wneud hynny
  10. sut i gynnal perthnasoedd rhwydweithio
  11. buddion ac anfanteision y grwpiau rhwydweithio ffurfiol sydd ar waith
  12. sut i gydnabod a pharchu’r gwahaniaethau rhwng pobl o wahanol ddiwylliannau neu gefndiroedd
  13. beth sy’n dylanwadu pobl i ymddwyn mewn ffyrdd penodol
  14. yr adnoddau i’w defnyddio er mwyn hyrwyddo’ch hun
  15. y ffyrdd i farchnata’ch hun a’ch gwasanaethau yn eich diwydiant
  16. buddion presenoldeb ar-lein proffesiynol a’r opsiynau i gyflawni hyn gan gynnwys gwefannau hyrwyddo, blogiau a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu; defnyddio; rhwydweithiau proffesiynol; cymdeithasau masnach; cleientiaid; cwsmeriaid; rhwydweithio; perthynas; presenoldeb ar-lein; cywirdeb; cyfryngau cymdeithasol; diwydiannau creadigol;