Rheoli perthnasoedd gyda chleientiaid neu gwsmeriaid yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydweithio gyda chleientiaid neu gwsmeriaid a meithrin perthnasoedd cynhyrchiol, parhaol gyda nhw i gynyddu’r tebygolrwydd y byddan nhw’n parhau i weithio gyda chi neu’n parhau i ddefnyddio’ch gwasanaethau.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli disgwyliadau cleientiaid neu gwsmeriaid o ran perthnasau a’r gwaith
- cydbwyso eich mewnbwn chi tuag at berthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid gydag adnoddau, gofynion ac arferion eich sefydliad
- ymddwyn yn foesegol wrth ymdrin â chleientiaid neu gwsmeriaid
- meithrin perthnasoedd sy’n dangos ymddiriedaeth, ymrwymiad a chydweithrediad
- meithrin cydberthynas a chyfathrebu mewn dull proffesiynol
- cadw cofnodion o ddisgwyliadau, cyfathrebu a chamau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw.
- llunio cynlluniau a chyflawni gwaith gan gadw at y raddfa amser a’r modd y cytunwyd arno
- cyfathrebu newidiadau mewn cytundebau i gleientiaid neu gwsmeriaid
- nodi unigolion sy’n brif wneuthurwyr penderfyniadau a dylanwadwyr o fewn sefydliadau cleientiaid neu gwsmeriaid
- hysbysu’r cleientiaid neu’r cwsmeriaid o’r ffyrdd y gallan nhw elwa ymhellach o’u perthynas nhw gydag eich sefydliad
- meithrin perthnasau proffesiynol gyda’r prif wneuthurwyr penderfyniadau
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd a buddioldeb perthnasau
- defnyddio adborth gan gleientiaid neu gwsmeriaid i gynnal ansawdd a chysondeb y gwasanaeth
- ymdrin â chwynion neu broblemau cleientiaid neu gwsmeriaid
- adrodd yn ôl i eraill sydd o fewn a’r tu hwnt i’r sefydliad am agweddau perthnasoedd sy’n berthnasol iddyn nhw
- adnabod cyfleoedd i feithrin perthnasau newydd neu bresennol gyda chleientiaid neu gwsmeriaid a fyddai o fudd i’ch sefydliad chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- anghenion a blaenoriaethau’r cleient neu’r cwsmer, y marchnadoedd maen nhw’n rhan ohonyn nhw a sut maen nhw’n cynhyrchu incwm
- beth allai effeithio ar benderfyniadau’r cleient neu’r cwsmer a’r amseroedd aros gan gynnwys eu strwythur sefydliadol a’u prosesau mewnol
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer meithrin perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
- effaith gor-addo neu weithredu er y tymor byr ar perthnasoedd
- cyfraniad perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid tuag at gyflawni nodau strategol a chywirdeb creadigol eich sefydliad
- rôl meysydd eraill eich sefydliad o ran rheoli’r perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
- buddion ac anfanteision gwahanol ffyrdd o gyfathrebu gyda phobl
- sut i asesu risgiau a buddion y perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
- sut i adnabod cyfleoedd i ychwanegu gwerth ac arbed arian cleientiaid neu gwsmeriaid
- sut i gyfathrebu addasiadau i gytundebau a newidiadau
- sut i ddatrys problemau
- sut i bennu’r adnoddau sydd eu hangen i reoli perthynas gyda chleient neu gwsmer
- y ffyrdd o adnabod a manteisio ar gyfleoedd wrth gynnal perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
- pryd i gyfathrebu gyda phobl neu sefydliadau eraill i fodloni disgwyliadau cleientiaid neu gwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS11
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Gweithwyr Addysgu Proffesiyno, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rheoli; cleientiaid; cwsmeriaid; disgwyliadau; amcanion strategol; cywirdeb creadigol; perthnasau; meithrin; diwydiannau creadigol;