Cydweithio gyda chydweithwyr, partneriaid a chyflenwyr yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSCMGS10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon ymwneud â chydweithio gyda phobl eraill yn eich tîm, adrannau eraill, sefydliadau eraill a sefydliadau cyflenwi i gyflawni nodau ac amcanion.

Mae’n ymwneud â gweithio mewn ffordd sy’n hybu perthnasoedd gweithio cadarnhaol drwy egluro a chytuno ar rolau, cyfrifoldebau a threfniadau gweithio, cyflawni eich tasgau eich hunain yn brydlon ac yn effeithiol, sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng gweithio’n effeithlon a diwallu anghenion cydweithwyr, cynnal perthnasau proffesiynol a chwrtais, dangos parodrwydd a hyblygrwydd, cydweithio gyda chydweithwyr, cynnig cymorth pan fo’n bosibl a gofyn am eu help pan fo’i angen.

Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. meithrin perthnasoedd a chynnal sgyrsiau rheolaidd gyda chydweithwyr neu bobl mewnol neu allanol
  2. ymdrin ag eraill mewn ffordd sy’n annog cyd-gymorth a chyd-ymddiriedaeth
  3. rheoli disgwyliadau pobl eraill
  4. bodloni terfynau amser a chyflawni cytundebau gan gadw at y raddfa amser a’r ansawdd gofynnol
  5. hysbysu eraill o unrhyw anawsterau wrth fodloni ymrwymiadau
  6. adnabod dulliau amgen i ymdrin â newidiadau o ran gofynion neu’r adnoddau sydd ar gael
  7. dwyn i ystyriaeth sut bydd eich penderfyniadau’n effeithio ar eraill o fewn a’r tu hwnt i’r sefydliad
  8. dwyn i ystyriaeth perthnasoedd mewnol ac allanol a chydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau a blaenoriaethau pobl eraill
  9. rhannu gwybodaeth, eich gofynion a’ch pryderon yn eglur ac yn brydlon
  10. dwyn i ystyriaeth barn a phryderon pobl eraill, gan gynnwys eu blaenoriaethau, disgwyliadau ac ymagweddau a rhannu eich disgwyliadau chi gyda nhw
  11. defnyddio dulliau i’ch helpu i gydweithio gyda phobl heriol
  12. adnabod gwrthdaro buddiannau ac anghytundebau a chymryd camau gweithredu i’w unioni
  13. monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gweithio
  14. ceisio a chynnig adborth i nodi’r meysydd sydd i’w gwella
  15. gweithio mewn ffordd gyfrifol a moesegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahanol swyddogaethau yn y sefydliad a’u rolau i gyflawni amcanion y sefydliad
  2. hierarchaethau a dynameg unrhyw dimau rydych chi’n rhan ohonyn nhw
  3. am y bobl yn eich adran chi, adrannau eraill, sefydliadau cyflenwi neu sefydliadau partner a’u rolau a chyfrifoldebau gwaith
  4. y prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau, a’r berthynas â chyflenwyr yn y sefydliad cleient, eich sefydliad eich hun a sefydliadau partner
  5. sut i ymateb i newidiadau
  6. sut i wneud penderfyniadau gyda gwybodaeth gyfyngedig
  7. anghenion sefydliadau a chleientiaid ynghlwm â syniadau a chynlluniau eich sefydliad
  8. pwysigrwydd rheoli disgwyliadau pobl eraill o ran beth ellir ei gyflawni a phryd
  9. pwysigrwydd canolbwyntio ar ddatrysiadau yn hytrach na phroblemau
  10. sut i weithio fel rhan o dîm i annog meddwl ar y cyd a chyflawni’r briff
  11. sut i adnabod pryd a sut i gyfathrebu gydag eraill
  12. y ffyrdd o ymgynghori gyda chydweithwyr neu bobl mewnol ac allanol
  13. sut i adnabod pwysigrwydd eich rôl yn y broses gyffredinol ac effaith posibl eich agwedd, rheolaeth amser, terfynau ac ansawdd eich gwaith ar eraill
  14. sut a phryd i gyfathrebu gyda chydweithwyr uwch neu fwy profiadol
  15. sut i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chyflenwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd, lleoliadau a gwledydd a pha wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw
  16. sut i gydweithio gyda phobl ar bob lefel
  17. rolau, cyfrifoldebau, anghenion, cymhellion, diddordebau a phryderon cydweithwyr, sefydliadau partner a chyflenwyr
  18. sut i adnabod a chyflenwi’r wybodaeth sydd ei hangen gan gydweithwyr a chyflenwyr yn unol â‘r gofynion diogelu data
  19. pa wybodaeth i’w chynnig i gydweithwyr a chyflenwyr a’r agweddau i’w dwyn i ystyriaeth
  20. yr effaith y gallai atal gwybodaeth allweddol ei chael ar gydweithwyr, sefydliadau partner a chyflenwyr ac ansawdd eu gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS10

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithwyr; partneriaid; cyflenwyr; rhanddeiliaid; perthnasau; rheoli; ar y cyd; prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau; diwydiannau creadigol;