Rheoli a marchnata eich gwasanaethau yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio yn y diwydiannau creadigol a hyrwyddo eich hun a’ch gwasanaethau i gyflogwyr neu gontractwyr posibl.
Mae gofyn ichi feddu ar ddealltwriaeth dda o sut i hyrwyddo eich llwyddiannau, meithrin eich cysylltiadau a rhwydweithiau ymhellach, a sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a dilyn strategaethau i hybu eich enw da proffesiynol a hyrwyddo’ch hun i gleientiaid posibl
- sicrhau fod gennych chi systemau ar waith sy’n gymorth i adnabod cyfleoedd gwaith yn gynnar
- cadw gwybodaeth am eich profiad, gwaith blaenorol, llwyddiannau a phryd rydych chi ar gael
- ymchwilio asiantiaid posibl neu gynrychiolwyr eraill yn eich ardal os oes angen
- sicrhau bod y cofnodion a’r cyfrifon yn gyfredol yn ôl yr angen
- sefydlu a defnyddio systemau i reoli cyllidebau, treth, TAW a chofnodion eraill yn ôl yr angen
- sefydlu a chynnal gwasanaethau effeithiol i gefnogi’ch hun fel gweithiwr llawrydd neu gontractwr tymor byr
- cynllunio ymlaen llaw i drefnu a chynnal llif gwaith ac arian hyfyw
- addasu i fodloni galwadau pobl eraill gan gynnal arddull gweithio personol, brand ac enw da
- trin a thrafod amodau a thelerau sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant cynhyrchu a safonau’r diwydiant
- amcan a chytuno ar gyfraddau ffi, amserlen a threuliau eraill realistig
- pennu deilliannau perfformiad pendant
- sicrha bod y cytundeb yn cynnwys manylion ynghylch telerau talu a’r dyddiad y mae taliadau’n ddyledus
- cadarnhau bod manylion y cytundeb yn cyfateb i gytundebau a chadw’r cytundeb terfynol wedi’i llofnodi yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwy yw’r prif fudiadau comisiynu yn eich maes arbenigedd chi a sut i gysylltu gyda nhw
- sut i gynnal eich moeseg ac arferion proffesiynol, a bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiannau creadigol ac aml-gyfrwng
- sut i ddangos i gleientiaid y byddai’n fanteisiol iddyn nhw gysylltu gyda chi ynghylch gwaith posibl
- a fyddai asiant neu gronfa ddata doniau ar-lein yn gallu eich helpu i ddod o hyd i waith
- sut i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn eich diwydiant chi
- sut i ddarparu cyfraddau realistig ar gyfer ffioedd ac adnoddau megis llety a threuliau
- sut i drin a thrafod amodau a thelerau yn unol â’r gofynion cyfreithiol, gofynion y cynhyrchiad a gofynion y diwydiant
- pryd y bydd angen yswiriant arnoch chi a sut i’w drefnu
- pryd a sut i gytuno ar daliadau fesul dipyn
- sut i gynnal cysylltiadau a thrin a thrafod gyda chleientiaid posibl
- sut i drin a thrafod a chytuno ar gytundebau cyfreithiol sy’n ymdrin ag incwm, amserlenni a deilliannau
- y ffynonellau cyngor ynghylch cyflogaeth, yswiriant, rheoliadau treth a deddfwriaethau eraill i fusnesau bach
- sut i gadw cyfrifon busnes syml (incwm, gwariant a llif arian) a sut i anfonebu a mynd ar ofyn taliadau hwyr
- sut i sefydlu a rheoli cyllidebau personol a busnes
- sut i gydnabod y gwahaniaeth rhwng penderfyniadau creadigol a busnes
- sut i gyflawni gwaith cynllunio wrth gefn, pennu amserlen a chynllunio ar gyfer y dyfodol i gynnal llif gwaith ac arian hyfyw
- sut i feithrin rhwydweithiau cymorth i fynd i’r afael â’r trafferthion sydd ynghlwm â gweithio ar eich liwt eich hun
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS1
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
rheoli; marchnata; gwasanaethau; diwydiannau creadigol; cyfrifon; cyllidebau; cytundebau; trin a thrafod; cyfradd ffi; diwydiannau creadigol;