Paratoi’r cyfarpar camera ar gyfer saethiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi'r cyfarpar camera ar gyfer saethiadau. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol i sefyllfaoedd lle mae un camera neu aml-gamerâu.
Mae hyn yn cynnwys ag adnabod yr anghenion o ran cyfarpar, gwirio fod y cyfarpar ar gael, gofalu bod y cyfarpar wedi'i bacio'n ddigonol ar gyfer ei gludo i'r set, pacio a rheoli bagiau cyfarpar, asesu effaith yr amgylchedd, creu sylfeini priodol i osod camerâu a monitorau arnyn nhw, gosod cyfarpar yn eu trefn a chynefino nwyddau gwydr.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am baratoi'r cyfarpar camera ar gyfer saethiadau gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr Clepio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y cyfarpar camera angenrheidiol i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwirio ydy'r cyfarpar camera a'r deunyddiau cysylltiedig ar gael gyda'r bobl briodol
- gofalu eich bod yn gwirio bod y cyfarpar camera'n gweithio cyn eu cludo i'r set
- asesu effaith yr amgylchedd saethu ar y cyfarpar camera
- sicrhau y caiff y cyfarpar camera ei bacio'n briodol i'w gludo i'r set
- pacio a threfnu bagiau cyfarpar gydag eitemau y bydd eu hangen mewn trefn y gallwch eu hestyn rhwydd
- gofalu y caiff yr holl gyfarpar camera ei gludo i'r set
- pennu man priodol ar y set ar gyfer y cyfarpar camera
- gosod y cyfarpar a deunyddiau camera mewn dull priodol ac sydd o fewn cyrraedd i chi
- dewis a chynefino nwyddau gwydr gan ystyried amodau'r lleoliad
- creu sylfeini priodol ichi osod camerâu a monitorau arnyn nhw
- trefnu'r camerâu a'r ategolion fel bod modd i chi eu cydosod yn rhwydd
- gosod pennau'r camerâu ar goesau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
prif nodweddion camerâu, lensys ac ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
y technegau trin camerâu a'r goblygiadau yn sgil unrhyw ddifrod i'r camerâu
y gweithdrefnau a nwyddau glanhau a chynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio gan gynnwys glendid pob arwyneb gwydr
sut i wirio ydy'r cyfarpar camera a deunyddiau cysylltiedig ar gael
sut i ddehongli anghenion y cyfarpar camera drwy fwrw golwg ar y daflen alwad
sut i lwytho a threfnu gosodiad gweithiol unrhyw gerbyd camera
diben bagiau cyfarpar, beth ddylai fod yn y bagiau a sut i'w trefnu
y rolau eraill ynghlwm, gan gynnwys gweithredwyr camera, a chynorthwywyr camera 1af neu dynwyr ffocws, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
sut i storio camerâu a lensys yn ddiogel
unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar camera pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio
gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol gan gynnwys y gofynion ynghylch codi a chario