Gosod a rigio monitorau camerâu

URN: SKSC8
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a rigio monitorau camerâu.

Gallai'r monitorau fod yn rhai gwifredig neu ddi-wifr. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Mae'n debyg bod hyn yn berthnasol i saethiadau aml-gamera.

Mae'n ymwneud â chodi, trin a gosod monitorau, cysylltu, plygio a llwybro ceblau, manteisio ar yr ansawdd llun gorau posibl, ymdrin â diffygion a chydymffurfio gyda gofynion diogelwch.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am osod a rigio monitorau camerâu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod y labeli prawf diogelwch trydanol ar gyfer y cyfarpar a'r ceblau'n gyfredol
  2. cadarnhau nad oes unrhyw ddifrod amlwg i'r cyfarpar a'r ceblau
  3. gwirio bod y cyflenwad trydan yn bodloni'r gofynion diogelwch
  4. dewis safleoedd y monitorau sy'n cynnig y llinell golwg orau posibl i'r bobl briodol, gan ymgynghori gyda'r bobl berthnasol,
  5. gosod yr holl fonitorau fel eu bod yn ddiogel, yn sownd a ddim yn peri unrhyw beryg
  6. hongian neu oleddfu ceblau i osgoi rhwystro llwybrau, mynedfeydd neu allanfeydd tân ac er mwyn cydymffurfio gyda'r safonau diogelwch perthnasol
  7. gofalu eich bod yn dilyn y drefn gywir, o blygio nwyddau yna eu troi ymlaen, bob amser
  8. codi a thrin unrhyw fonitorau a cheblau gyda dull sy'n eich diogelu chi ac eraill
  9. cynnig unrhyw gysgodion ac adnoddau rhwystro'r glaw gofynnol er mwyn bodloni lleoliad y cynhyrchiad 
  10. gosod monitorau mewn mannau allan o olwg y goleuadau a'r camerâu
  11. troi porthiant y monitor ymlaen yn unol â'r cyfarwyddiadau
  12. manteisio ar yr ansawdd llun orau bosibl gan ddefnyddio'r cyfarpar a ffynonellau gwirio cywir
  13. adnabod a thrwsio unrhyw ddiffygion yn unol â'r gweithdrefnau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i fynd i'r afael â phroblemau yn ymwneud â'r monitorau mewn golwg gan gynnwys fflachiadau fframiau, patrymau strôb a chywiro lliwiau
  2. y gwahanol fathau o fonitorau a chyfleusterau monitro
  3. y mathau o geblau, cysylltwyr ac addaswyr y caiff eu defnyddio'n gyffredin
  4. y gwahanol fathau o signalau fideo a'r cyfarpar ar gyfer monitro o bell
  5. sut i osod neu hongian monitorau'n ddiogel
  6. i bwy mae angen monitorau, a pha borthwyr y mae'n debyg y bydd eu hangen arnyn nhw 
  7. sut i ddehongli gwybodaeth cynllunio
  8. y ffynonellau cyngor a gwybodaeth
  9. sut a phryd i weithredu'r canllawiau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol
  10. y technegau codi a thrîn diogel gan gynnwys sut i osgoi gwaith codi di-angen
  11. gwahanol ffynonellau o borthiant fideo a phwy sy'n gyfrifol am eu darparu nhw gan gynnwys allbwn cymysgydd, rhagolygon a phorthwyr effeithiau
  12. sut i borthi sawl monitor o un ffynhonnell fideo
  13. pa ofynion diogelwch trydanol a ffisegol all fod yn berthnasol i geblau a llwybrau ceblau
  14. sut i gyfnewid porthwyr monitorau yn ystod cynyrchiadau
  15. sut i addasu monitor lluniau a defnyddio generaduron signalau prawf
  16. sut i olrhain diffygion neu blygio anghywir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC6

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; monitro gwelediad; codi monitorau; trin monitorau; gosod monitorau; ceblau; teledu; camera aml-deledu