Gosod a rheoli goleuadau ar gyfer saethiadau camera unigol
URN: SKSC7
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio goleuadau i amlygu lluniau ar gyfer saethiadau camera unigol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys dewis goleuadau, ategolion, hidlwyr a'r cyfarpar, eu gosod yn ddiogel, defnyddio rheolyddion a gosodiadau camera a fydd yn effeithio ar yr amlygiad, datrys problemau a chofnodi gwybodaeth ar gyfer ail-gynhyrchu.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr Camera sy'n gyfrifol am osod a rheoli goleuadau ar gyfer saethiadau camera unigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau gofynion saethiadau gan ddefnyddio gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol
- dewis goleuadau ac ategolion sy'n gweddu i'r pŵer sydd ar gael a'r gofynion technegol
- gwirio bod y goleuadau a'r ategolion yn ddiogel i'w defnyddio ac yn addas i'r diben
- dewis safleoedd ar gyfer goleuadau a'r cyfarpar rheoli sy'n diwallu anghenion y cynhyrchiad
- rigio a gosod goleuadau yn unol â'r dulliau diogel o weithio ichi ac eraill heb ddifrodi'r eiddo
- gofalu bod y goleuadau'n cynnig y tymheredd lliw gofynnol i ddiwallu anghenion y cynhyrchiad drwy gydol y saethiadau
- dewis hidlwyr, ategolion ac effeithiau sy'n cyflawni'r deilliannau artistig a thechnegol
- cyflawni'r effeithiau gofynnol drwy gydbwysedd gwyn, cynnydd (gain) a rheolyddion y glicied caead drwy gydol y saethiadau
- gosod gosodiadau amlygu sy'n diwallu'r anghenion o ran ffocws ac sy'n briodol ar gyfer hidlwyr ac effeithiau
- canfod datrysiadau effeithiol pan fo amodau'n peri problemau
- monitro ac addasu amlygiad i fodloni'r gofynion drwy gydol y saethiadau
- bodloni'r gofynion goleuo gan gadw at y cyllidebau y cytunwyd arnyn nhw
- cofnodi gwybodaeth am oleuo fel bod modd ail-gynhyrchu saethiadau pan fo'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau gwybodaeth am ofynion saethiadau gan gynnwys sgriptiau a'ch cydweithwyr ar y cynhyrchiad
- y mathau o oleuadau sy'n addas ar gyfer camerâu gan ystyried y maint, pŵer, manylion technegol, dosbarthiad, goleuder a system rheoli'r goleuadau
- y problemau gyda gwaith y tu hwnt i'r stiwdio gan gynnwys y cyfanswm pŵer sydd ar gael, llwythi a goblygiadau defnyddio nifer o oleuadau ar y prif gyflenwad pŵer
- y ffynonellau pŵer a'r trefniadau pan nad ydyn nhw ar gael
- egwyddorion sylfaenol sinematograffi a ffotograffiaeth
- y ddeddfwriaeth iechyd diogelwch perthnasol, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer ffynonellau pŵer a'r cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio ynghyd â sut i weithredu ffyrdd diogel o weithio gan gynnwys pryd fydd angen tystysgrif Profi Offer Cludadwy (PAT) a sut i wirio ei fod o wedi'i gyflawni
- y problemau cyffredin gydag amodau goleuo a sut i'w datrys nhw ynghyd ag effeithiau lleoliadau, amodau hinsoddol ac amser y dydd ar y goleuo
- sut i rigio goleuadau
- y cysyniadau sylfaenol ynghlwm â goleuo ac amlygiad, gofynion amlygu'r saethiad a nodweddion y camera a all effeithio ar yr amlygiad
- y dulliau hwyluso symudiadau rhwng goleuadau mewnol ac allanol
- y mathau cyffredin o hidlwyr, eu defnyddiau a ffactorau amlygu ynghyd â defnyddiau a chyfyngiadau systemau amlygiad awtomatig
- ble i ganfod gwybodaeth am gyllidebau cynyrchiadau
- beth sydd angen ei gofnodi er mwyn hwyluso cydweddu gydag unrhyw ddeunydd dilynol gofynnol eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSC22
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; rheolyddion camera; gosodiadau; effeithiau; amlygiad; awyrgylch y saethiad; hidlwyr; hidlwr; cyfarpar goleuo; cywiro lliw