Rigio ceblau ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rigio ceblau ar gyfer cynyrchiadau gyda gofynion sylweddol yn ymwneud â cheblau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau ond mae'n bwysig yn benodol i gynyrchiadau darllediadau byw neu ddarllediadau tu allan. Fe allai fod yn berthnasol i gynhyrchiad aml-gamera neu gamera unigol.
Mae’n cynnwys ag adnabod y ceblau cywir a gofalu eu bod nhw ar gael, gosod a diogelu ceblau yn unol â'r gofynion diogelwch ynghyd â gosod ceblau dros ben a cheblau ategol.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rigio ceblau ar gyfer cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio'r ceblau, a gofalu bod y ceblau gofynnol ar gael ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
- symud y ceblau i'r safle gofynnol gan ddefnyddio peirianwaith codi neu dechnegau codi cywir
gwirio bod y pwyntiau cebl, llwybrau ceblau ac unrhyw geblau patch yn cydymffurfio gyda'r wybodaeth a roddwyd
trefnu pwyntiau a llwybrau ceblau er mwyn lleihau unrhyw geblau'n croesi ac fel eu bod nhw'n agos i safleoedd arfaethedig y camerâu
- gosod ceblau dros ben er mwyn atal y ceblau rhag clymu neu droelli pan fyddwch yn eu defnyddio
- gofalu eich bod yn rhwymo'r ceblau lle maen nhw'n plygu'n naturiol
- diogelu ceblau er mwyn osgoi pwysau ar blygiau a socedi
- diogelu unrhyw geblau tonnog ar hyd y ceblau camera
- hongian neu oleddfu ceblau er mwyn osgoi rhwystro llwybrau mynediad, mynedfeydd neu allanfeydd ac er mwyn cydymffurfio gyda'r safonau diogelwch perthnasol
- gwirio bod y gwaith rigio yn cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o geblau, cysylltwyr a chyfarpar cydgysylltu
- sut i wirio soletrwydd ceblau a chysylltwyr, a chydgysylltiad cyfarpar
- y dulliau o gludo neu godi ceblau
- sut i adnabod diffygion cyffredin a phwy i'w hysbysu yn eu cylch
- agweddau diogelwch ac amgylcheddol llwybro ceblau
- sut i drin a hongian ceblau heb achosi unrhyw ddifrod neu beryg i bobl eraill
- goblygiadau ceblau'n croesi a sut i'w hosgoi
- sut i ddeall cynlluniau ceblau
- sut i osgoi ceblau'n clymu neu droelli
- sut i ddiogelu ceblau
- pa weithdrefnau diogelwch sy'n berthnasol i rigio ceblau
- sut i rigio ceblau er mwyn lleihau ymyriad trydanol