Cynnal a chadw camerâu digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw camerâu digidol yn barhaus. Mae hyn yn berthnasol i gamerâu digidol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu alla a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys glanhau rhannau y mae modd i'r defnyddwyr eu cyrraedd, archwilio hidlwyr optegol 'low pass', gwirio'r cyflinelliad, ffocws cefn a thracio, adnabod diffygion a chyfansoddion sydd wedi torri, cymryd camau unioni i adfer unrhyw ddiffygion a chyfathrebu gydag eraill pan nad oes modd ichi ddatrys unrhyw broblemau.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel peirianwyr Lensys neu beirianwyr Camerâu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- glanhau'r holl rannau y mae modd i'r defnyddwyr eu cyrraedd ar gamerâu digidol
- gwirio cyflinelliad y lensys, ffocws cefn a thracio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- archwilio a glanhau hidlwyr optegol 'low pass' (OLPF) yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- defnyddio'r wybodaeth briodol i adnabod unrhyw ddiffygion mecanyddol neu drydanol ynghyd ag unrhyw gyfansoddion sydd wedi torri
- gweithredu camau unioni i ddatrys diffygion neu broblemau eraill sy'n berthnasol i'ch maes arbenigedd chi
- cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol am unrhyw ddiffygion neu broblemau eraill na allwch chi eu datrys
- storio camerâu a lensys mewn mannau diogel pan fyddwch chi wedi cwblhau'r gwaith neu pan fyddwch yn eu gadael heb neb i ofalu amdanyn nhw
- gweithio gan gydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif nodweddion y camerâu digidol, lensys a'r ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
- y technegau trin camerâu a'r goblygiadau yn sgil unrhyw ddifrod i'r camerâu
- y gweithdrefnau a'r cynnyrch glanhau a chynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn eu defnyddio gan gynnwys yr hidlwyr optegol 'low pass' (OLPF)
- y technegau cynnal a chadw cyfredol ar gyfer camerâu a'r maes lensys
- dangosyddion y diffygion mecanyddol neu drydanol a'r cyfansoddion sydd wedi torri a sut i'w trwsio
- y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr a chynorthwywyr camera 1af ac 2il, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
- sut i storio camerâu a lensys yn ddiogel
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio