Lawr lwytho a chyflwyno blaenbrintiau negatif ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â lawr lwytho a chyflwyno blaenbrintiau negatif ar gyfer cynyrchiadau. Mae hyn yn berthnasol i gamerâu ffilm. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu neu hysbysebion.
Mae'n ymwneud â lawr lwytho blaenbrintiau mewn amodau priodol, defnyddio gweithdrefnau priodol, storio a labelu blaenbrintiau, llunio dogfennau cysylltiedig, cyflwyno blaenbrintiau a dogfennau a chyflawni gwaith yn brydlon erbyn dyddiad terfyn penodol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am lawr lwytho a chyflwyno blaenbrintiau negatif ar gyfer cynyrchiadau ynghyd â'r rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr Clepio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- lawr lwytho blaenbrintiau mewn amodau priodol ar gyfer negatifau dinoethedig
- lawr lwytho blaenbrintiau yn unol â'r prosesau cymeradwy
- ail-ganio darnau ffilmiau byrion defnyddiadwy yn unol â gweithdrefnau'r cynhyrchiad
- storio blaenbrintiau yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- labelu a marcio caniau gyda'r wybodaeth gywir a gofynnol
- paratoi'r dogfennau gofynnol i gyd-fynd gyda'r blaenbrintiau
- cyflwyno blaenbrintiau a dogfennau cysylltiedig i'r bobl berthnasol ynghlwm â'r cynhyrchiad
- cyflwyno blaenbrintiau yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnyn nhw
- trin a storio camerâu a lensys yn unol â'r gofynion diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- * *terfynau amser, disgwyliadau a gweithdrefnau'r cynhyrchiad er mwyn lawr lwytho blaenbrintiau negatif
- y digwyddiadau a all effeithio ar derfynau amser mewn amgylchedd cynhyrchiad
- y cyfarpar a'r amodau gofynnol i lawr lwytho blaenbrintiau o gyflenwad ffilm
- y gweithdrefnau gwastraff a sut i ymdrin â darnau ffilmiau byrion
- sut i ymdrin â darnau ffilm llac neu sydd wedi'i rwymo'n anghyson
- gofynion labelu a dogfennu'r cynhyrchiad
- pwy ddylech chi gyflwyno blaenbrintiau iddyn nhw
- y rolau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel gweithredwyr camera, cynorthwywyr camera 1af a thynwyr ffocws, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- unrhyw ofynion arbennig er mwyn diogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr yn ymwneud â'r cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
- gofynion y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithdrefnau perthnasol, gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chodi a chario