Adolygu a storio cyfryngau wedi’i recordio ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adolygu a storio cyfryngau wedi'i recordio ar gyfer cynyrchiadau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys gwirio cyflwr cyfryngau wedi'i recordio, cynnig adborth am ansawdd y cyfryngau, prosesu data, rhagweld problemau technegol, cadw copi wrth gefn o gyfryngau wedi'i recordio a'i archifo, a phacio a storio offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer Technegwyr Delweddu Digidol (TDD) sy'n gweithio ar gynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio'r feddalwedd briodol i wirio nad oes unrhyw ddifrod neu lygredd i gyfryngau wedi'i recordio
- cadw copi wrth gefn o'r cyfryngau wedi'i recordio mewn mannau penodol
- diogelu'r cyfryngau rhag ffactorau amgylcheddol a allai effeithio'n negyddol ar gofnodi data neu storio
- cynnig adborth ar ansawdd y data i'r bobl briodol yn yr adrannau camera a chynhyrchu pan fo'n briodol
- prosesu'r data yn unol â thaflenni cofnodi data digidol
- cyflwyno data ar ffurfiau addas
- cyfathrebu gyda'r bobl briodol yn yr adrannau sain er mwyn gofalu eu bod yn cyfuno gyda'r camera
- hysbysu'r bobl briodol am unrhyw broblemau ar unwaith
- gwirio gyda'r bobl berthnasol bod y cyfarpar wedi'i gysylltu'n ddiogel i ffynonellau pŵer priodol
cydymffurfio â rheolau ymddygiad safonol y set a’r arferion gweithio y cytunwyd arnyn nhw
- gweithio mewn amgylcheddau gyda lliwiau penodol sy'n briodol ar gyfer y gwaith
cael y delweddau gorau posibl o'r systemau camera
- archifo data er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cadarnhau bod y cysylltiadau a'r cyflymderau uwch lwytho a lawr lwytho priodol ar gael i storio deunydd
- cynnig datrysiadau technegol dichonol i unrhyw broblemau'n ymwneud â data neu ffurf a all godi ar y set
- gofalu y caiff yr holl gyfryngau ei gludo ar ddiwedd pob diwrnod saethu yn unol â'r gofynion diogelwch
- dadosod offer a chyfarpar yn unol â'r gweithdrefnau diogelwch a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
pacio a storio'r offer a’r cyfarpar mewn man diogel pan na fyddwch yn eu defnyddio
- gweithio gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer dulliau diogel o weithio yn ymwneud ag adolygu a storio cyfryngau wedi'i recordio yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gadw copi wrth gefn o ddata mewn sawl lle a sut i'w adolygu a'i wirio ynghyd â sut i gynnal gwiriad gweledol
sut i adolygu data i sicrhau nad yw wedi’i ddifrodi na’i lygru
- y ffactorau amgylcheddol a all effeithio ar recordio cyfryngau a sut i ddarparu gorchuddion rhag y tywydd ar gyfer gwahanol amgylcheddau
- sut i ragweld problemau technegol
- sut i gynnig adborth mewn ffordd broffesiynol a diplomataidd
- sut i ddarllen a phrosesu data yn unol â'r cyfarwyddiadau ar daflen cofnodi data digidol
- y gwahaniaethau rhwng ffurfiau camera a'r cyfyngiadau technegol ynghyd â manteision ac anfanteision pob un
sut i drosi a chyflwyno data mewn gwahanol ffurfiau a'r gofynion diogelwch ar gyfer cludo data
- y pecynnau meddalwedd i gyflawni prosesu data
arferion gweithio da a rheolau ymddygiad disgwyliedig ynghyd â sut i gyfuno'n llwyddiannus gyda'r adrannau camera a sain
gyda phwy ddylech chi gyfathrebu pan fo problem a’r dull priodol o wneud hynny
sut i adnabod ffynonellau pŵer a pha weithwyr yn yr adrannau trydanol a all helpu gyda hyn
- sut mae pebyll tywyllu'n creu amgylcheddau lliwiau penodol
- y gwahanol ofodau lliw sy'n gysylltiedig â'r camera a gwylio ôl-gynhyrchu a'u heffaith ar y set, y golygiad, y monitro a'r cynhyrchiad terfynol
- sut i ddefnyddio tablau am-edrych (TAE)
- sut i ofalu bod cywirdeb a chysondeb gyda disgwyliadau ôl-gynhyrchu
- y cynllun lliw a graddoli yn ymwneud â thynnu'r lluniau gorau posibl
- y dulliau a'r arfau ar gyfer archifo
- y gwahanol gyflymderau lawr lwytho a chysylltiadau a galwadau hanfodol y gofynion storio
- sut i ddadosod a storio offer a chyfarpar
- sut i weithio'n ddiogel, gan dalu sylw i'ch ystum, gofalu am eich golwg a chodi cyfarpar trwm
- y canllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio gyda chyfarpar electronig ar leoliad neu mewn stiwdio