Paratoi ar gyfer gwaith delweddau digidol ar gynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer gwaith yn ymwneud â delweddau digidol ar gynyrchiadau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn ymwneud ag adnabod y gofynion creadigol a thechnegol ynghyd ag unrhyw ffactorau a all effeithio ar reoli a storio data yn effeithiol, dwyn i ystyriaeth materion yn ymwneud â'r lleoliad a'r amgylchedd, gan gynnwys cludo'r offer a manteisio ar ffynonellau trydan. Mae hefyd yn ymwneud â llunio dogfen llif gwaith i fodloni'r deilliannau y cytunwyd arnyn nhw ar y cyd â'r timau camera ac ôl-gynhyrchu.
Mae'r safon hon ar gyfer technegwyr delweddu digidol (TDD) sy'n paratoi at weithio ar gynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod gofynion a'r adnoddau gofynnol ar gyfer gwaith TDD wedi bwrw golwg ar waith papur perthnasol y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda'r bobl briodol ynghylch gofynion y swydd er mwyn gofalu bod modd bodloni galwadau'r cynhyrchiad
- cynllunio gwaith i ddwyn i ystyriaeth ffurfiau saethu, y lleoliad, yr amgylchedd ac unrhyw faterion logistaidd eraill
- cyfathrebu gyda'r bobl briodol i ofalu bod y cyfarpar a'r adnoddau priodol ar gael
- manteisio ar unrhyw gyfarpar a meddalwedd ychwanegol gan gyflenwyr priodol pan fo'n briodol
- cynghori'r bobl briodol sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad am broblemau technegol a all effeithio ar y cynyrchiadau
- cynnig datrysiadau technegol sy'n gofalu bod y cynyrchiadau'n fwy effeithiol
- llunio dogfennau llif gwaith gyda deilliannau wedi'u nodi'n eglur
- cyfathrebu gyda'r timau camera ac ôl-gynhyrchu am y llif gwaith ar adegau priodol
- dosbarthu'r dogfennau llif gwaith at y bobl a'r adrannau priodol
- cydymffurfio gyda rheolau ymddygiad y safon ac ymarferion gweithio'r cynhyrchiad y cytunwyd arnyn nhw bob amser
- gofalu eich bod yn gyfarwydd gyda'r offer a'r meddalwedd penodol ar gyfer cynyrchiadau
- gwirio ydy'r ffynonellau pŵer priodol ar gael drwy ymgynghori gyda'r adrannau trydan
- cadarnhau bod y cyfarpar yn addas i'r diben ac mewn cyflwr da cyn y cynhyrchiad
- gwirio bod systemau archifo effeithiol a phriodol mewn lle cyn y cynhyrchiad
- defnyddio pebyll tywyll i greu amgylcheddau ar gyfer lliwiau penodol
- trin, pacio a chludo cyfarpar yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
* *
- y prosesau a phobl cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, gan gynnwys camerâu, golygu, cydymffurfio, graddoli ac effeithiau gweledol (VFX)
- sut i ddadansoddi sgript a deall yr effaith ar waith TDD y sgript, gofynion y cynhyrchiad, ffurfiau saethu, lleoliad a'r amgylchedd
- sut i asesu lleoliadau ar gyfer unrhyw faterion logistaidd penodol yn ymwneud â ffurfiau saethu a ffactorau a all beri ystyriaethau ychwanegol, fel saethiadau stereosgopig neu anamorffig
- sut i adnabod a rheoli adnoddau i fodloni anghenion y cynhyrchiad, gan gynnwys penodi staff ychwanegol a llogi cyfarpar ychwanegol pan fo'n briodol
- y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- pam ei bod hi'n bwysig cydweithio gyda gweithwyr camera proffesiynol mewn dull diplomataidd a phroffesiynol
- y ffynonellau pŵer priodol ar gyfer eich gwaith
- sut i fanteisio ar a chodi pebyll tywyllu
- sut i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar electronig a chyfrifiadurol
- sut i gynnal a chadw a diweddaru cyfarpar yn rheolaidd er mwyn cydymffurfio gyda newidiadau i feddalwedd a ffurfiau
- sut i ddilyn technolegau cyfredol a thechnolegau caiff eu datblygu yn ymwneud ag offer a meddalwedd
- y pecynnau meddalwedd cyfredol a'u defnyddiau
- sut i fanteisio ar wybodaeth ynghylch canfod meddalwedd anadnabyddus
- lle i ganfod cyfarpar a meddalwedd
- gofynion yswiriant ar gyfer cyfarpar a meddalwedd
- sut i gadarnhau bod cyfarpar mewn cyflwr da
- sut i gynnig datrysiadau creadigol drwy wybodaeth dechnegol
- sut i rannu syniadau creadigol ac unrhyw faterion neu anghenion sy'n codi
- y ffynonellau gwybodaeth am ddiben ac addasrwydd y cyfarpar camera dewisol a'r nifer o gamerâu y dylid eu defnyddio
- y gofynion trin, pacio a storio cyfarpar
- ffurfiau a chynnwys dogfennau llif gwaith