Cwblhau a dosbarthu adroddiadau am ddilyniant a’r cynhyrchiad
URN: SKSC34
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chwblhau a dosbarthu adroddiadau am ddilyniant a'r cynhyrchiad yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad wedi'i sgriptio gan gynnwys ffilmiau nodwedd a dramâu Teledu.
Mae hyn yn ymwneud â marcio sgriptiau golygyddion, cofnodi gwybodaeth am draciau ar wahân, ail-deipio sgriptiau pan fo dialog yn newid, paratoi taflenni cofnodi dyddiol i olygyddion, llunio adroddiadau am ddilyniant a dosbarthu'r holl wybodaeth sydd wedi'i pharatoi.
Mae'r safon hon yn berthnasol i Oruchwylwyr Sgriptiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi sylw ar sgriptiau golygyddion gan ddefnyddio'r wybodaeth am lechi/estyll (clapboards) a saethiadau
- llunio cofnodion am draciau ar wahân pan fo nhw'n ymddangos mewn sgriptiau
- cyflwyno rhestrau o draciau ar wahân i olygyddion a'r bobl berthnasol eraill
- ail-deipio sgriptiau er mwyn dangos unrhyw newidiadau sylweddol i'r dialog
- paratoi adroddiadau dilyniant dyddiol gyda'r wybodaeth berthnasol am bob llechen, saethiad a chynnig
- ffeilio copïau o waith papur bob dydd ynghyd â'r lluniau llonydd sy'n cyd-fynd gyda nhw mewn trefn resymegol
- paratoi taflenni cofnodi dyddiol y golygyddion yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- cyflwyno'r gwaith papur dyddiol gofynnol i'r bobl berthnasol sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad i'w dosbarthu i'r golygyddion
- paratoi adroddiadau dyddiol am y cynhyrchiad gyda gwybodaeth berthnasol am y cynnydd, amseriadau ac unrhyw broblemau
- cynnig rhestrau a'r diweddaraf am unrhyw saethiadau neu saethiadau mewnosod heb eu ffilmio i'r swyddfa gynhyrchu iddyn nhw eu dosbarthu i'r adrannau perthnasol
- rhannu'r wybodaeth berthnasol gyda'r 2il unedau ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i farcio sgriptiau golygyddion a pha wybodaeth ddylech chi ei chyflwyno arnyn nhw
- pryd mae angen a pham bod angen traciau ar wahân
- pryd mae hi'n briodol ichi ail-deipio sgriptiau er mwyn dangos newidiadau i'r dialog
- y wybodaeth berthnasol am bob llechen i'w gyflwyno mewn adroddiadau dilyniant gan gynnwys dyddiad y manylion, amser y saethiad, y tywydd a rhifau'r golygfeydd
- y wybodaeth berthnasol am bob saethiad i'w gyflwyno yn yr adroddiadau dilyniant gan gynnwys disgrifiad o'r saethiadau a chofnodion o'r holl weithrediadau a dialog
- y wybodaeth berthnasol am bob cynnig i'w gyflwyno mewn adroddiadau dilyniant gan gynnwys amseriadau, unrhyw sylwadau, cynigion penodol ac unrhyw fanylion perthnasol eraill
- lle a sut i ffeilio dogfennau yn ystod saethiadau
- y mathau o wybodaeth i'w gyflwyno ar daflenni cofnodi dyddiol i olygyddion
- beth i'w gyflwyno mewn adroddiadau'r cynhyrchiad ynghylch cynnydd gan gynnwys rhifau gosodiadau, golygfeydd a'r golygfeydd rhannol sydd wedi'u saethu, golygfeydd wedi'u trefnu ar y daflen alw na chafwyd eu saethu, golygfeydd wedi'u cwblhau, golygfeydd wedi'u cwblhau'n rhannol, a rhifau tudalennau'r sgript sydd wedi'u cwblhau
- beth i'w gyflwyno o ran amseriadau mewn adroddiadau am y cynhyrchiad gan gynnwys amser sgrin, cyfanswm amser rhedeg hyd yn hyn, amseriadau llai ac uwch na'r amcan amseriadau, amseriadau cinio ac amser dirwyn y cynhyrchiad i ben
- beth i'w gyflwyno mewn adroddiadau am y cynhyrchiad o ran unrhyw broblemau gan gynnwys unrhyw oedi neu ddamweiniau
- pa wybodaeth ddylech chi ei rhannu gydag 2il unedau, gan gynnwys rhestrau saethiadau a gwybodaeth am baru saethiadau, yn ogystal â phryd mae hi'n briodol ichi wneud hynny
- gofynion y ddeddfwriaeth iechyd diogelwch a gweithdrefnau perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSCSS7
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; dilyniant; gofynion dilyniant; manylion technegol; adroddiad am y cynhyrchiad; adroddiad dilyniant; sgript