Cynnal a chadw cofnodion dilyniant a manylion camera technegol yn ystod saethu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw cofnodion cywir ac eglur o'r holl agweddau ynghlwm â dilyniant a manylion technegol camera yn ystod saethu. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad wedi'i sgriptio gan gynnwys ffilmiau nodwedd a dramâu teledu.
Mae hyn yn cynnwys cofnodi’r wybodaeth ofynnol ar gyfer cydweddu, amser sgrin, ffafriaethau o ran y cynigion, mannau cychwyn a stopio ar gyfer cynigion, amseriadau, saethiadau cyfansawdd a thraciau ar wahân. Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod unrhyw broblemau gyda'r ddeialog neu’r dilyniant, trafferthion cydweddu dichonol neu saethiadau sydd heb eu cyflawni a'u trafod gydag eraill.
Mae'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr Sgriptiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal a chadw cofnodion hollgynhwysol o'r wybodaeth ofynnol ar gyfer cydweddu saethiadau dilynol a saethiadau cipluniau llydan
- cyfrifo cyfanswm yr amser sgrin ar sail amser rhedeg yr holl gynigion
- cofnodi holl sylwadau, camgymeriadau ac anghysondebau a'r rhesymau dros gwtogi unrhyw gynigion mewn mannau penodol
- cofnodi union fannau cychwyn a stopio ar gyfer pob cynnig ar y sgriptiau
cadarnhau dewisiadau o ran y cynigion gyda'r cyfarwyddwyr ar adegau priodol
- hysbysu criw camera a sain am brintiau dewisol ar adegau priodol
- hysbysu'r cyfarwyddwyr am unrhyw broblemau'n ymwneud â dialog neu ddilyniant neu drafferthion cydweddu dichonol mewn da bryd er mwyn iddyn nhw allu mynd i'r afael gyda nhw
sicrhau yr ymdrinnir â’r holl weithrediadau a’r ddeialog yn ddigonol yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- derbyn a chofnodi manylion lensys, pellterau ffocal a'r hidlwyr gaiff eu defnyddio gan y bobl berthnasol mewn gwahanol adrannau camera
- cynnal a chadw cofnodion cyflawn am holl agweddau saethiadau cyfansawdd ar gyfer Effeithiau Gweledol (VFX) a phlatiau cefndirol
- hysbysu'r bobl berthnasol am unrhyw saethiadau heb eu cyflawni ar adegau priodol
- tynnu lluniau gyda phensel neu dynnu lluniau gyda chamera ar gyfer cydweddu ar adegau priodol
- cadw lluniau pensel neu luniau camera mewn mannau penodedig ichi fedru manteisio arnyn nhw ar unwaith pan fo angen
- gwirio bod yr holl olygfeydd priodol wedi'u ffilmio ar setiau cyn ichi eu datgymalu
- cynnal a chadw cofnodion am draciau ar wahân sydd angen eu cyflawni yn unol â gofynion y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y wybodaeth ofynnol ar gyfer cydweddu gan gynnwys amseriad y ffilmio, dilyniant y symudiadau a dialog a symudiadau'r camera, yr amser o’r dydd a'r amodau tywydd
y mathau o broblemau a all godi yn ymwneud â chydweddu
- sut i gyfrifo amser sgrin a diben cofnodi'r wybodaeth honno
- sut i gofnodi gwybodaeth am gynigion ar y sgriptiau
yr amser priodol i gyfathrebu gyda chyfarwyddwyr am dewisiadau o ran y cynigion, problemau neu drafferthion
sut i ddehongli gofynion y cynhyrchiad ar gyfer ymdrin â'r ffilmio a’r ddeialog
sut i gofnodi gwybodaeth am lensys, pellterau ffocal a hidlwyr
- diben casglu gwybodaeth am saethiadau cyfansawdd a sut i'w gofnodi
- pryd ddylech chi dynnu llun gyda phensel neu gamera a lle i gadw'r lluniau hynny
- sut i adnabod saethiadau heb eu cyflawni a phwy ddylech chi eu hysbysu yn eu cylch
- pwy ddylech chi eu hysbysu am draciau ar wahân heb eu cyflawni a pham eu bod nhw'n ofynnol
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol