Monitro dadansoddiad y sgript, dilyniant a manylion camera technegol yn ystod y broses drefnu ac ymarferion
URN: SKSC31
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro dadansoddiad y sgript, dilyniant a manylion camera technegol yn ystod y broses drefnu a'r ymarferiadau i baratoi ar gyfer y saethu pob dydd. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad wedi'i sgriptio gan gynnwys ffilmiau nodwedd a dramâu Teledu.
Mae'n ymwneud â gwirio gofynion dilyniant, monitro dilyniant, cyfathrebu gyda'r bobl briodol i ofalu eich bod yn cynnal y dilyniant, paratoi rhestrau saethiadau, monitro manylion y sgript a stori, cefnogi actorion gyda'u llinellau, monitro'r broses drefnu dechnegol ac amseru ymarferion.
Mae'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr Sgriptiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- seilio paratoadau ar gyfer saethiad pob dydd ar y wybodaeth ar daflenni galwad
- echdynnu tudalennau sgript y cyfarwyddwyr a lluniau llonydd cyfeirio o fannau penodol
- cyflwyno'r holl wybodaeth berthnasol o ran cydweddu i'r dadleuwyr data
- paratoi a chadarnhau gofynion dilyniant ar gyfer golygfeydd wedi'u trefnu yn ddyddiol
- cadarnhau os byddwch chi'n saethu'r golygfeydd yn ystod y dydd neu gyda'r nos gyda'r bobl berthnasol ynghyd â chadarnhau unrhyw ddefnydd gofynnol o oleuadau ymarferol a chydweddu'r goleuadau
- cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol am ofynion ynghylch dadansoddiadau'r saethiadau ar gyfer pob golygfa
- paratoi rhestrau saethiadau sy'n ymdrin â'r gofynion
- monitro trefn pob saethiad drwy gydol yr ymarferion
- gofalu na chaiff unrhyw gyfeiriadau neu ddialog wedi'u sgriptio eu hesgeuluso yn ystod yr ymarferion
- cynorthwyo actorion gyda'u llinellau pan fo angen
- monitro amseriadau ymarferion a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am hydoedd dichonol sy'n rhy hir neu'n rhy fyr
- cadw cofnodion cywir ac eglur o safleoedd actorion a safleoedd camerâu ymhob lle a man yn ystod ffilmio
- adnabod, cofnodi, a rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw newidiadau i safleoedd actorion neu gamerâu
- gwirio bod y dirprwy actorion yn cyflawni'r symudiadau, troeon a gweithrediadau cywir er dibenion goleuo
- monitro symudiadau'r camerâu a'r mannau stopio gan roi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau golygu dichonol
- cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol am oblygiadau dilyniant yn sgil unrhyw newidiadau i olygfeydd
- cyflwyno rhifau llechi a golygfeydd i'r bobl berthnasol ar adegau priodol
- cyfathrebu gydag adrannau perthnasol am faterion penodol yn ymwneud â dilyniant ar adegau priodol
- mynd i'r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â dilyniant cyn gynted â phosibl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwybodaeth ar daflenni galwad i'w defnyddio er mwyn paratoi ar gyfer saethiadau'r diwrnod canlynol
- y mathau o wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cydweddu a'r camau ynghlwm â hynny
- y wybodaeth i'w chyflwyno ar restrau saethiadau
- pam ei bod hi'n bwysig i roi sylw rhagorol i fanylder
- sut mae amseriadau'n effeithio ar ofynion ar gyfer y cyflenwad ffilm a sut mae hyn yn berthnasol i lwythwyr clepio
- sut mae amseriadau'n effeithio ar hyd y sgript
- sut mae symudiadau camera a phwyntiau stopio wrth ffilmio yn effeithio ar y gofynion golygu
- lle i ganfod gwybodaeth am saethu golygfeydd yn ystod y dydd neu gyda'r nos gan gynnwys gan gyfarwyddwyr a ffilmwyr
- y goblygiadau ynghlwm â goleuo golygfeydd i'w saethu yn ystod y dydd neu gyda'r nos
- pryd a pham y bydd angen goleuadau ymarferol ar setiau
- y goblygiadau dilyniant dichonol ynghlwm a newidiadau i olygfeydd a phwy ddylech chi gydweithio gyda nhw yn eu cylch
- yr adegau priodol i gyfathrebu gyda'r adrannau camera, cynhyrchu ac adrannau eraill yn ystod y broses drefnu ac ymarfer
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol
- sut i gofnodi safleoedd actorion a'r camerâu a phwy i'w hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau
- adrannau mae'n bosib y bydd gofyn ichi gydweithio gyda nhw ynghylch materion dilyniant penodol a sut i gysylltu gyda nhw gan gynnwys yr adrannau gwallt, colur, gwisg a phropiau
- pwy sydd angen y wybodaeth am rifau'r llechi a golygfeydd gan gynnwys ail gynorthwywyr, llwythwyr clepio, a'r gweithwyr sain
- sut i fonitro dialog a'r ffilmio gan gymharu gyda'r sgript
- sut i gynorthwyo actorion gydag ymarfer eu llinellau
- pryd a sut i brocio cof actorion
- sut i weithio'n effeithiol gydag actorion a'r dirprwy actorion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSCSS3
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; ymarferion; gofynion dilyniant; manylion technegol; ymarferion; sgript