Cynorthwyo gweithredwyr camera i recordio ac adolygu delweddau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gweithredwyr camera i recordio ac adolygu delweddau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol i ddigwyddiad lle byddwch yn defnyddio sawl camera neu un camera unigol.
Mae'n ymwneud â chynnal cyflenwad o gyfryngau recordio, mynd i'r afael â holl agweddau'r cod amser, gosod cydbwysedd gwyn a du, cofnodi gwybodaeth am fariau lliw ac arlliw graddnodedig, gwirio recordiadau, cofnodi problemau, labelu a symud cyfryngau wedi'i recordio.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw aelod o'r criw camera sy'n cynorthwyo'r gweithredwyr camera i recordio ac adolygu lluniau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofalu bod cyflenwad digonol o gyfryngau recordio i fodloni'r gofynion saethu
- cofnodi unrhyw brinder mewn cyfryngau recordio i'r bobl berthnasol, ar unwaith
- trin a storio cyfryngau recordio yn unol â'r gweithdrefnau
- llunio cofnodion a labeli sy'n eglur a chywir ac sy'n cynnig yr holl fanylion a'r wybodaeth dechnegol ofynnol am y cynhyrchiad
- penderfynu ar y math o god amser gan ymgynghori gyda'ch cydweithwyr ar y cynhyrchiad
- gwirio cyfryngau recordio am ddifrod amlwg cyn eu llwytho
- llwytho cyfryngau recordio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a pharatoi cyfarpar ar gyfer recordio
- cyflwyno cod amser ac unrhyw 'fanylion defnyddwyr' (user bit) gofynnol i fodloni gofynion ôl gynhyrchu
- cysoni'r cod amser gyda ffynonellau eraill, neu ddarparu trydan prif seinydd cyfeirio drwy gydol y cyfnod recordio
- gosod cydbwysedd gwyn a chydbwysedd du i fodloni'r gofynion
- cofnodi'r mathau o fariau lliw ac arlliw graddnodedig i fodloni'r gofynion
- defnyddio ataliadau recordio i atal tros recordio ar gyfryngau recordio
- gwirio cofnodion a thâp ail-leoli ar gyfer saethiadau dilynol pan fo gweithredwyr camera yn gofyn ichi wneud hynny
- rhoi gwybod i'r bobl gyfrifol am unrhyw broblemau, ar unwaith
- trosglwyddo asedau cyfryngau at gam nesaf y broses cynhyrchu yn unol â'r gofynion diogelwch a gofynion y cynhyrchiad
- cyflwyno cyfryngau recordio a gwybodaeth ategol i'r bobl berthnasol, ar unwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i wirio'r gofynion gyda'r timau cynhyrchu
- y mathau o gyfryngau recordio a'u haddasrwydd ar gyfer gwahanol gynyrchiadau
- pwy ddylech chi roi gwybod iddyn nhw am brinder mewn cyfryngau recordio
- unrhyw ofynion cynhyrchu arbennig ar gyfer saethiadau
- y gofyniad ôl gynhyrchu ar gyfer codau amser cywir
- y mathau o gyfryngau recordio y caiff eu defnyddio a'u cyflenwyr
- sut i gynnal dilyniant cod amser yn dilyn rhoi'r camera ymlaen a diffodd y camera
- gofynion trin a storio cyfryngau recordio'n ddiogel
- pa gyfarpar sydd â meysydd magnetig a all effeithio ar y cyfryngau recordio
- pa ffactorau amgylcheddol a all effeithio ar gyfryngau recordio
- o le rydych yn derbyn y cyfryngau recordio a'r gweithdrefnau i'w dychwelyd
- sut i wirio recordiadau
- pwy ddylech chi roi gwybod iddyn nhw am broblemau'n ymwneud â chyfryngau wedi'i recordio
- sut i drin a labelu cyfryngau recordio er mwyn osgoi difrod iddyn nhw
- y pecynnau addas er mwyn osgoi difrod yn sgil y tywydd neu wrth ichi eu symud o un lleoliad i'r llall
- y trefniadau anfon lleol, gan gynnwys terfynau amser
- ffurf y codau amser rydych yn eu defnyddio'n gyfredol
- labeli a marciau adnabod ar gyfer cyfryngau recordio