Pacio cyfarpar camera i’w gludo o un lle i’r llall

URN: SKSC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phacio cyfarpar camera i'w gludo o un lle i'r llall. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. 

Mae'n ymwneud â dewis blychau neu ddeunydd pacio addas, gwirio am unrhyw ddifrod neu rannau coll, pacio cyfarpar yn ddiogel, casglu neu wirio dogfennau cysylltiedig a labelu'r blychau. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cyfarwyddwyr 1af, Tynwyr Ffocws neu weithredwyr Camera unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis blychau a deunydd pacio sy'n cydymffurfio gydag unrhyw ofynion a chyfyngiadau yn ymwneud â dulliau cludo a phennau teithiau
  2. defnyddio blychau a digonedd o ddeunydd pacio o safon i ddiogelu'r cyfarpar 
  3. cyfathrebu gyda'r bobl briodol am y trefniadau pacio a chludo
  4. gwirio a thrwsio unrhyw ddifrod neu rannau coll cyn pacio'r cyfarpar
  5. pacio'r cyfarpar camera fel ei fod yn ddiogel ac wedi'i amddiffyn rhag unrhyw ddifrod yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  6. gofalu bod y cyfarpar yn cyd-fynd â'r dogfennau cysylltiedig
  7. cofnodi a datrys unrhyw anghysondebau rhwng y cyfarpar a'r dogfennau gyda'r swyddfa gynhyrchu
  8. labelu'r blychau gyda manylion eglur a chywir ac sy'n bodloni'r gofynion rheoliadol  
  9. hysbysu'r bobl briodol pan fo'r cyfarpar yn barod i'w gludo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y technegau cyfredol er mwyn trin camerâu
  2. y blychau camerâu a deunyddiau pacio eraill cyfredol
  3. y rheoliadau a'r cyfyngiadau ar gyfer dulliau cludo a phennau teithiau gan gynnwys y ddeddfwriaeth diogelwch, cyfyngiadau pwysau, a gofynion o ran dogfennau
  4. sut i bacio camerâu a lensys yn ddiogel
  5. y mathau o ddifrod a all ddigwydd yn sgil trîn camerâu a'r ategolion cysylltiedig yn anghywir
  6. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar camera yn ystod ei gludo a phan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  7. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
  8. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  9. y gofynion ynghlwm â'r dogfennau gan gynnwys y rheiny ar gyfer cludo dramor
  10. pryd i gyfathrebu gyda'r swyddfa gynhyrchu ac aelodau eraill o'r criw
  11. sut i lunio rhestrau hollgynhwysol o'r cyfarpar ar gyfer trwyddedau a rol yr asiantaethau llongau ynghlwm â hyn
  12. eich union gyfrifoldebau ynghlwm â gosod rhannau newydd yn lle hen rai a gwaith trwsio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP10

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; cyfarpar camera; deunyddiau pacio; cludo; dogfennau cludo; trwyddedau; dogfennau