Adolygu a dadansoddi saethiadau i ganfod unrhyw ddiffygion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adolygu a dadansoddi saethiadau am unrhyw wallau yn erbyn gofynion technegol ac esthetig. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu digidol neu ffilm. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys adolygu saethiadau, dadansoddi saethiadau o gymharu â gofynion y cynhyrchiad, adnabod gwallau technegol, adnabod agweddau sydd ddim yn bodloni'r gofynion o ran estheteg, cytuno ar ddatrysiadau, cywiro saethiadau a chyfeirio'r rheiny na allwch chi eu datrys at bobl eraill.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr ffocws neu Weithredwyr Camera unigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu saethiadau ar adegau priodol yn y broses gynhyrchu
- trin cyfarpar a deunyddiau mewn ffyrdd sy'n diogelu eu cyflwr
- dadansoddi saethiadau o gymharu â gofynion estheteg a thechnegol cynyrchiadau
- adnabod agweddau penodol saethiadau sydd ddim yn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- defnyddio dulliau cymeradwy y diwydiant i adnabod unrhyw fannau lle nad ydy'r llun yn gyflawn
- defnyddio dulliau wedi'u cydnabod gan y diwydiant i adnabod unrhyw ffocws meddal neu wedi'i osod mewn man anghywir
defnyddio dulliau wedi'u cydnabod gan y diwydiant i adnabod diffygion sy'n berthnasol yn benodol i ddefnydd camerâu digidol neu ffilm
gwirio cyfarpar a deunyddiau er mwyn adnabod diffygion technegol sy'n cyfrannu at saethiadau o safon wael
adnabod datrysiadau dichonol i ddatrys unrhyw wallau
trafod a chytuno ar ddatrysiadau i diffygion gyda'r bobl briodol
- hysbysu'r bobl berthnasol am weithrediadau adferol a fydd yn effeithio arnyn nhw
datrys diffygion sy'n berthnasol i'ch cyfrifoldebau a'ch maes arbenigedd chi
- cyfeirio materion na allwch chi eu datrys at y bobl briodol ar unwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y camerâu, lensys, hidlwyr a'r ategolion lensys sy’n cael eu defnyddio’n gyfredol
lle i ganfod gwybodaeth am ofynion esthetig a thechnegol saethiadau
- sut i adnabod ffocws meddal a ffocws wedi'i osod yn y mannau anghywir
- effeithiau'r gwahanol fathau o gyfarpar optegol gan gynnwys lensys macro
- effaith ffurfiau camera a hyd ffocws ar yr ongl weledol
- sut i ddadansoddi dyfnder maes a holltau ffocws
- goblygiadau dyfnderau ffocws gwahanol fflansys
- sut i adnabod unrhyw fannau lle nad ydy'r llun yn gyflawn
- sut i adnabod ffocws meddal neu ffocws wedi'i osod mewn man anghywir
- sut i adnabod a datrys gwallau yn ymwneud â chamerâu digidol gan gynnwys colli cyflinelliad gyda lensys closio ac anghydnawsedd ategolion gyda systemau camera
- sut i adnabod a datrys gwallau'n ymwneud â ffilmio gan gynnwys gwallau labordy, pyrth aneglur, crafiadau ac unrhyw ddifrod arall i'r cyflenwad
- sut mae cylchoedd dryswch yn effeithio ar eglurder lluniau
sut i adnabod problemau technegol a beth sy’n eu hachosi
- y ffynonellau golau fflachiol cyffredin a phryd a sut mae amleddau ffynonellau golau yn effeithio ar ffenestri onglau'r glicied caead ar gyfer saethu heb fflachiadau
- sut i drwsio problemau cyffredin gan gynnwys newid gosodiadau ac ail-saethu
- y dulliau cyfredol o ymwneud â dilyniant gweledol a thechnegau ôl gynhyrchu
gyda phwy ddylech chi gysylltu i ymdrin â, datrys, a chofnodi diffygion
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol