Dinoethi a chywiro lliwiau lluniau camera
URN: SKSC28
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag amlygu a chywiro lliwiau lluniau camera. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol i gynyrchiadau aml-gamera neu gamera unigol.
Mae hyn yn ymwneud ag addasu rheolyddion a gosodiadau camerâu, monitro amlygiad drwy gydol y saethiadau a mynd i'r afael â phroblemau yn sgil golau naturiol.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw aelod o'r criw camera sy'n amlygu a chywiro lliwiau lluniau camera.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ceisio canfod datrysiadau effeithiol pan fo golau naturiol yn achosi problemau gyda'r amlygiad neu liwiau
- cyflawni'r effaith ofynnol drwy gydbwyso lliw, cynnydd (gain) neu gyflymder y ffilm, hidliad neu unrhyw nodwedd camera arall
- gosod amlygiad er mwyn bodloni'r anghenion o ran ffocws a dwyn i ystyriaeth hidlwyr ac effeithiau
- monitro amlygiad, o gymharu â'r gofynion o ran awyrgylch a amlygiad, drwy gydol y saethiadau
- adnabod pryd bydd angen gwneud addasiadau er mwyn bodloni'r gofynion o ran amlygiad
- gwneud addasiadau effeithiol fel bod y saethiadau'n bodloni'r gofynion o ran awyrgylch ac amlygu, ar unwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio cyfarpar mesur golau mewnol ac allanol
- y ffynonellau cyffredin o olau a'u tymereddau lliw
- yr hidlwyr cyffredin, eu gofynion, defnyddiau a'u heffaith ar amlygiad
- dulliau hwyluso symudiad rhwng golau mewnol ac allanol
- defnyddiau a chyfyngiadau'r camerâu a all effeithio ar amlygiad a'r cydbwysedd lliw gan gynnwys awto iris
- awyrgylch gofynnol y saethiad a'r gofynion o ran amlygu i'w gyflawni
- y dulliau cywiro lliw.
- y gofynion amlygu ar gyfer y cynhyrchiad yn ystod y dydd a'r nos
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSC21
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; rheolyddion camera; amlygu; cywiro lliw; awyrgylch; hidlwyr camera; amlygiad