Cynnal a chadw batris camerâu yn ystod saethiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw batris camerâu yn ystod saethiadau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol i gynyrchiadau aml-gamera neu gamera unigol.
Mae'n ymwneud â gofalu y caiff batris a'r gwefrwyr priodol eu defnyddio, monitro'r batris caiff eu defnyddio, gweithredu trefniadau gwefru, trefnu a labelu batris wedi'u gwefru a threfnu man storio priodol ar gyfer batris.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw aelod o'r criw camera sy'n cynnal a chadw batris yn ystod saethiada.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio a chynghori ar y mathau addas o fatris
- monitro'r batris rydych yn eu defnyddio'n barhaus
- rhoi gwybod i'r bobl berthnasol pan fo angen newid y batris
- gwirio bod y gwefrwyr yn addas ar gyfer y batris rydych yn eu defnyddio
- gwefru'r batris yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch a'r gweithdrefnau gwefru y cytunwyd arnyn nhw
- trefnu a gweithredu trefn ail-wefru fel bod yna gyflenwad cyson o fatris wedi'u gwefru
- cadw digon o fatris er mwyn diwallu'r anghenion saethu a gwefru
- rhifo'r batris wedi'u gwefru yn unol â'r drefn rydych yn bwriadu eu defnyddio
- storio batris yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- prynu cyfleusterau arbennig i storio batris pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- goblygiadau batris yn colli pŵer neu'n diffodd yn gyfan gwbl yn ystod saethiad
- pwy ddylech chi eu hysbysu pan fo angen newid batris
- sut a phryd i ymddwyn yn ymwthgar wrth ymwneud â gofynion newid batris
- y batris a'r gwefrwyr priodol sy'n cyd-fynd gyda'i gilydd
- sut i wefru a chydbwyso batris yn ddiogel
- y mathau o fatris ac oes cymharol batris
- effeithiau tymheredd ar fatris
- sut i storio batris yn ddiogel ac a oes unrhyw ofynion storio arbennig
- sut i drefnu batris ar gyfer eu gwefru
- sut i labelu batris yn unol â'u statws
- sut i atal dadwefru mewn camgymeriad
- pa ddulliau sy'n bodoli er mwyn monitro'r batris rydych yn eu defnyddio