Gosod a defnyddio byrddau clepio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a defnyddio byrddau clepio. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn ymwneud â pharatoi a gosod byrddau clepio, cyfathrebu gyda'r adran sain, defnyddio byrddau clepio, cydamseru llechi digidol, cyhoeddi cynigion, defnyddio byrddau ôl-glepwyr, cofnodi gwybodaeth wedi'i arddangos ar fyrddau clepio a chwblhau taflenni adroddiadau camerâu.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am osod a defnyddio byrddau clepio gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr Clepio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu gyda'r bobl briodol am osod byrddau clepio a chydamseru llechi digidol
- paratoi a gosod byrddau clepio mewn lleoliadau y cytunwyd arnyn nhw
- defnyddio byrddau clepio yn unol â gweithdrefnau cymeradwy y diwydiant
- cyhoeddi cynigion mewn pryd ac mewn llais eglur
- defnyddio ôl-glepwyr pan fo'n briodol i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cynnal cofnodion eglur a chywir o'r holl wybodaeth ar fyrddau clepio
- trosglwyddo gwybodaeth wedi'i chofnodi ar daflenni adroddiadau camerâu, gan ofalu bod yr holl fanylion gofynnol wedi'u cofnodi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben bwrdd clepio a llechen ddigidol
- sut i farcio, diweddaru a defnyddio byrddau clepio
- sut i fonitro codau amser mewn llechi digidol
- pryd a pham y caiff llechi pen i waered eu defnyddio
- pryd a pham y caiff siartiau graddfa lwyd neu sglodion lliw eu cynnwys ar fyrddau clepio
- y gofynion o ran y wybodaeth a dogfennau yn ymwneud â defnyddio byrddau clepio
- y gwahaniaethau rhwng systemau cofrestru Prydeinig ac Americanaidd
- y rolau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad, gan gynnwys gweithredwyr camera, cynorthwywyr camera 1af, tynwyr ffocws a'r adran sain, a phryd ddylech chi gyfathrebu gyda nhw
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol