Cynorthwyo’r gweithredwyr camera yn ystod saethu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gweithredwyr camera, mae'n bosib na fyddai'n gallu symud o'u safle, yn ystod saethu. Fe allai fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol i saethiad aml-gamera neu un camera unigol.
Mae'n ymwneud â rheoli ceblau, trefnu a rigio cyfarpar ychwanegol, cynorthwyo gyda symud a gweithredu'r camera, cyfathrebu gydag aelodau'r criw a mynd i'r afael gydag unrhyw gyfarpar diffygiol.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cynorthwyo'r gweithredwyr camera yn ystod saethu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadw'r ceblau'n daclus drwy gydol y saethiad
gosod ceblau i ofalu bod modd symud ac ail-osod camerâu a'r cyfarpar eraill yn effeithlon
trin a 'masgio' ceblau camerâu symudol i ofalu bod modd eu symud yn rhwydd ac yn ddiogel ac er mwyn lleihau'r lefelau sŵn
gwirio llwybrau tracio camerâu'n barhaus er mwyn gofalu nad oes yna unrhyw un nac unrhyw gyfarpar yn eu rhwystro
cyfathrebu gydag aelodau'r criw ar adegau priodol
cynorthwyo'r gweithredwyr camera i ail-osod, rigio, dad-rigio ac ail-blygio cyfarpar camera yn unol â'r gofynion
cynorthwyo'r gweithredwyr camera i symud a gweithredu'r camerâu yn unol â'r gofynion
nôl cyfarpar ategol, nwyddau traul neu wybodaeth pan na allai'r gweithredwyr camera adael eu safleoedd gweithredol
cofnodi unrhyw gyfarpar diffygiol a threfnu cyfarpar yn ei le, neu drefnu i'w drwsio yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw
casglu a dychwelyd unrhyw gyfarpar ategol neu ychwanegol i'r mannau priodol ar ddiwedd y saethiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ymddygiad a phrotocolau wrth weithio mewn amgylchedd saethu
- y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, asesiadau risg, a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio, ynghyd â sut i gyflawni dulliau diogel o weithio
- pam ei bod hi'n bwysig i fod yn ymwybodol o onglau saethu camerâu, llwybrau tracio, llinellau edrych, llinellau gweld a sain fyw artistiaid
- goblygiadau logistaidd a diogelwch llwybrau ceblau a'r rhesymau dros gadw ceblau'n daclus gan gynnwys gofalu am ddiogelwch pobl ac osgoi difrod i geblau neu gyfarpar
- sut i osgoi difrod i geblau a'r cyfarpar sydd wedi cysylltu iddyn nhw
- sut i dywys ceblau'r camerâu symudol i ofalu eich bod yn gweithredu'r camera mewn ffordd rhwydd, diogel a distaw
- sut i ail-osod, rigio a phlygio'r cyfarpar camera
- y derminoleg sylfaenol a'r technegau ynghlwm â defnyddio'r camera
- sut i symud a gweithredu camerâu gan gynnwys sut i dracio neu osod camera ar graen, closio neu ffocysu'r lens
- lle a sut i gael gafael ar gyfarpar ategol a nwyddau traul
- pwy ddylech chi gysylltu gyda nhw i dderbyn cyngor neu wybodaeth
- sut i gofnodi ac amnewid cyfarpar diffygiol
- sut a lle i ddychwelyd cyfarpar ar ddiwedd saethiad