Cynorthwyo gweithredwyr camera yn ystod y broses trefnu cyfarpar a’r ymarferion
URN: SKSC24
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gweithredwyr camera yn ystod y broses trefnu offer a'r ymarferion. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys dewis a pharatoi lensys, cofnodi gofynion marcio, gosod marciau ffocws a galw ac egluro systemau codio lliwiau i actorion.
Mae'r safon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am gynorthwyo gweithredwyr camera yn ystod y broses trefnu cyfarpar a'r ymarferion gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr clepio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynorthwyo gweithredwyr camera pan fo'n ofynnol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwirio bod cyflenwad digonol o lensys penodol ar gael
- paratoi lensys penodol i'w defnyddio yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- cyflenwi'r lensys sydd wedi'u paratoi i'r bobl briodol pan fo'n ofynnol
- trin lensys gan sicrhau eich bod yn eu cadw mewn cyflwr digonol bob amser
- gosod marciau ffocws a galw yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- cofnodi marciau ffocws ar ffurfiau priodol
- marcio safleoedd actorion a'r camerâu gan ddefnyddio'r systemau codio lliwiau cywir
- egluro systemau codio lliwiau i actorion ar adegau na fydd yn amharu ar y cynyrchiadau
- gweithio ar y set yn unol â gofynion iechyd a diogelwch y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion allweddol lensys cyfredol
- y technegau trin a symud cyfarpar a goblygiadau unrhyw ddifrod i lensys
- y gweithdrefnau a'r cynnyrch glanhau a chynnal a chadw ar gyfer lensys
- pryd mae hi'n briodol i chi gynorthwyo gweithredwyr camera
- sut i wirio cyflenwadau lensys
- sut i ddehongli gofynion ar gyfer paratoi lensys
- buddion mynychu'r ymarferion cyntaf
- buddion gosod marciau ffocws a marciau galw ar gyfer eraill
- sut i ddehongli gofynion ar gyfer marciau ffocws a galw o'r ymarfer
- systemau codio lliwiau cymeradwy y diwydiant ar gyfer marciau ffocws a galw
- rolau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel gweithredwyr camera, a chynorthwywyr camera 1af neu dynwyr ffocws, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSC24
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; saethiad; gwneuthurwyr; cyflenwyr; ategolion; digwyddiadau byw; arddangosfeydd; ymarfer; gofynion iechyd a diogelwch; gweithrediadau camera