Cyfathrebu a chyd-drefnu ar saethiad aml-gamera
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu a chyd-drefnu ar saethiad aml-gamera. Mae'n ymwneud â chyfathrebu gyda'r criw camera yn ogystal â chyfathrebu rhwng y criw camera ac eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys chyfathrebu dros radio, porthwyr, monitorau, goleunodau a gan ddefnyddio wybodaeth ysgrifenedig, signalau ac ystumiau. Mae hefyd yn ymwneud â chyd-drefnu gyda gweithredwyr camera eraill i wella ansawdd y saethiadau, amseriad symudiadau'r camera a phontio rhwng saethiadau.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr Camera sy'n gweithio ar gynhyrchiad aml-gamera.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau a defnyddio cyfarpar ar gyfer cyfathrebu a chyd-drefnu fel sy'n briodol ar gyfer saethiadau
- gwirio bod radios, goleunodau, porthwyr a monitorau'n gweithio heb unrhyw ymyrraeth
- atal datgelu unrhyw gyfathrebu ar sain rhaglenni neu'r amgylchedd gweithio
- adnabod a dehongli cyfathrebu sy'n benodol i'ch rôl weithredol chi
- adnabod a dehongli gwybodaeth caiff ei gyfeirio at weithwyr eraill, ond a all effeithio ar eich rôl weithredol chi
- llunio nodiadau gweithredol eglur y bydd modd i weithredwyr eu dehongli pan fo angen
- defnyddio signalau neu ystumiau priodol pan fo cyfathrebu ar lafar yn anymarferol
- cyfathrebu gydag aelodau'r criw ar adegau priodol
- cyfeirio cyfathrebu drwy drydydd parti priodol pan fo angen
- cydymffurfio gyda phrotocolau priodol wrth gyfathrebu gyda thimau cynhyrchu neu adrannau eraill
- defnyddio goleunodau'r camerâu, porthwyr, monitorau a radios i gydlynu saethiadau camera, symudiadau ac ail-leoliadau ar adegau priodol
- defnyddio goleunodau'r camerâu, porthwyr, monitorau a radios i wella ansawdd saethiadau, amseriad symudiadau'r camerâu a phontio rhwng saethiadau
- defnyddio porthwyr neu fonitorau i gydlynu'ch saethiadau chi gyda saethiadau gweithredwyr eraill
- defnyddio porthwyr neu fonitorau i wella golwg ac amseriad porthi rhwng saethiadau, toriadau, cymysgiadau, toddiadau a disodliadau
- defnyddio porthwyr a monitorau i addasu cyfansoddiad saethiad wrth ddefnyddio troslythreniadau, sgriniau hollt neu effeithiau electronig eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cadwyni a phrotocolau cyfathrebu perthnasol
- sut i gyfathrebu gydag aelodau'r criw a phryd y mae'n briodol ichi wneud hynny
- y dulliau cyfathrebu di-eiriau mae'n bosib y byddwch yn ei ddefnyddio pan fo angen ichi weithio mewn distawrwydd
- y derminoleg a byrfoddau y caiff eu defnyddio
- sut i gael gafael ar, cysylltu a gweithredu gwahanol fathau o radios
- yr agweddau iechyd a diogelwch ynghlwm â defnyddio radios mewn mannau gyda graddfa sŵn amgylchynol uchel
- sut i adnabod a dehongli perthnasedd y wybodaeth rydych yn ei derbyn yn gywir
- sut i ddefnyddio goleunodau camera, porthwyr, monitorau a radios i wella ansawdd saethiadau
- sut a phryd y mae hi'n briodol i gyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu, y tîm lluniau, neu adrannau cyfleusterau eraill
- y ffynonellau porthiant gan gynnwys porthwyr ffenestr allanol a phorthwyr cymysg
- sut i ddefnyddio porthwyr ffenestri allanol, porthwyr cymysg a monitrau i gyd-lynu a chyflenwi allbwn eich camera gyda chynnwys cyffredinol a pharhaus y rhaglen
- y mathau o wybodaeth gallwch ei defnyddio i wella ansawdd y saethiadau gan gynnwys sŵn rhaglen, sylwebaeth, rhifau saethiadau a'r camerâu, ôl-gyfrif neu gyfrif bariau
- sut i ddefnyddio porthwyr a monitorau i wella pontio rhwng saethiadau ac i fonitro unrhyw droslythreniadau neu effeithiau electronig rhwng saethiadau a all effeithio ar gyfansoddiad y llun
- y gwahanol fathau o oleunodau camerâu a sut i'w dehongli
- y cyfyngiadau ynghlwm â gweithredu goleunodau camerâu
- cyfeirio allbwn eich camera a pwy o bosib fydd yn ei ddefnyddio, hyd yn oed pan na fyddwch chi'n bresennol yn y saethiad