Cynnal ffocws a gweithrediad camera gofynnol drwy gydol y saethiadau

URN: SKSC22
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thynhau ffocws lensys a chynnal ac addasu ffocws i fodloni gofynion a monitro gweithredu'r camera wrth saethu. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.

Mae hyn yn ymwneud ag asesu gofynion, gwneud cyfrifiadau, cynnal ffocws, gwneud newidiadau i'r ffocws, monitro gweithrediad y camera a datrys problemau.

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel. Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws neu Weithredwyr Camera unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r ffocws gofynnol i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  2. cyfrifo'r holltiadau ffocws, dyfnder y maes a'r pellterau hyperffocol gofynnol ar gyfer saethiadau
  3. trafod a chytuno ar holltiadau neu newidiadau ffocws gyda'r bobl berthnasol
  4. cofnodi unrhyw farciau ffocws ar y cyd â'r bobl berthnasol i fodloni gofynion y cynhyrchiad 
  5. gofalu bod gennych chi ddigon o amser ar gyfer unrhyw ymarfer gofynnol neu er mwyn rhagwylio saethiadau
  6. hysbysu'r bobl briodol pan fo'r camera'n barod i saethu
  7. cynnal ffocws drwy gydol y saethiadau yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  8. amseru newidiadau ffocws i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  9. cofnodi unrhyw amheuaeth o ffocws meddal i'r bobl berthnasol ar unwaith
  10. monitro gweithrediad y camerâu drwy gydol y saethiadau
  11. gweithredu'n briodol er mwyn datrys unrhyw broblemau gyda'r camerâu gan ofalu eich bod yn amharu cyn lleied â phosibl ar y cynyrchiadau
  12. trin camerâu mewn ffyrdd na fydd yn achosi difrod
  13. gofalu bod camerâu'n ddiogel pan fyddwch yn eu gadael heb neb i ofalu amdanyn nhw
  14. cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prif nodweddion camerâu lensys ac ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
  2. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  3. cyfyngiadau'r cyfarpar dewisol pan fo gofynion y cynhyrchiad yn newid
  4. meddalwedd ar gyfer cyfradd fframiau ac effaith cyfradd fframiau ar gof camerâu 
  5. technegau trin camerâu a goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu
  6. sut i ddehongli symudiad y prif oddrych, symudiad y camerâu, barn esthetig a gofynion eraill y cynhyrchiad
  7. sut i gofnodi marciau ffocws a phryd mae eu hangen nhw gan gynnwys pwyntiau mesur, marcio graddfeydd ffocws lensys a marcio setiau
  8. sut i wneud cyfrifiadau gofynnol gan gynnwys y rheiny ar gyfer holltiadau ffocws, dyfnder maes a'r amser gofynnol ar gyfer ymarfer a rhagwylio saethiadau
  9. y siartiau a thablau sydd ar gael i gynorthwyo gyda chyfrifiadau a sut i'w defnyddio
  10. sut mae dyfnder ffocws a phellter hyperffocol yn effeithio ar gyfrifiadau dyfnder y maes
  11. sut i gynnal ffocws heb gyfeirio at y graddnodiad yn barhaus nac ychwaith amharu ar y camerâu
  12. y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel y cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camera, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
  13. sut i adnabod problemau ynghlwm â gweithredu'r camera gan gynnwys signalau rhybuddio a sŵn
  14. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
  15. unrhyw ofynion arbennig er mwyn diogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP7

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; lens; paramedrau lensys; gweithrediadau camera; modelau camera; cyfarpar ac ategolion; ffocws