Gosod a monitro paramedrau camerâu a lensys yn ystod saethiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a monitro paramedrau camerâu a lensys yn ystod saethiadau. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.
Mae hyn yn cynnwys dewis a gosod hidlwyr, gosod ac addasu paramedrau camerâu a lensys, cynnig datrysiadau pan fo gosodiadau'n gwrthdaro, monitro effaith ffynonellau golau, monitro gweithrediadau camerâu a datrys problemau.
Mae'r safon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af neu Dynwyr Ffocws.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar ofynion y cynhyrchiad yn ymwneud â gosodiadau'r camerâu gyda'r bobl briodol
- dewis a gosod hidlwyr sy'n bodloni'r gofynion o ran tymheredd lliw a gofynion eraill y cynhyrchiad
- gosod agorfa, cyflymder y camera, amledd, y tymheredd lliw, ongl y glicied caead ac ISO i fodloni gofynion y cynhyrchiad ar gyfer saethiadau
- defnyddio gosodiadau sy'n dwyn i ystyriaeth ffactorau hidlwyr wedi'u cyfuno
- gosod hyd ffocws gofynnol ar gyfer unrhyw lensys closio yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- awgrymu datrysiadau dichonol pan fyddwch yn adnabod unrhyw wrthdaro rhwng, neu drafferthion gyda, lensys dewisol a gosodiadau camera
- hysbysu'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau neu gyfyngiadau ynghylch gosodiadau camera na allwch chi eu datrys
- gweithredu er mwyn sicrhau nad ydy amleddau fflachio ffynonellau golau'n effeithio ar saethiadau
- monitro gweithrediad y camerâu drwy gydol y saethiadau
- gwneud unrhyw addasiadau gofynnol i osodiadau camerâu a lensys ar adegau priodol
- datrys unrhyw broblemau gyda'r camerâu gan amharu cyn lleied â phosibl ar y cynhyrchiad
- gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion allweddol camerâu, lensys ac ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
- diben lensys macro
- cyfyngiadau'r cyfarpar pan fo gofynion y cynhyrchiad yn newid
- y feddalwedd ar gyfer cyfradd fframiau ac effaith cyfradd fframiau ar gof y camera
- y technegau trîn camerâu a goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu
- galluoedd, cyfyngiadau ac effeithiau gwahanol fathau o gyfarpar optegol cyfredol gan gynnwys lliwiau'r hidlwyr, tymheredd lliw a pharamedrau optegol eraill
- yr agweddau i'w hystyried wrth addasu gosodiadau camera gan gynnwys effeithiau ffurfiau camera a hyd ffocws ar ongl weledol, sut i ddadansoddi dyfnder maes a holltiadau ffocws, dyfnderau ffocws fflansys a'u goblygiadau, sut i asesu cyflinelliad closio ac ôl-ffocws a sut mae cylchoedd dryswch yn effeithio ar eglurder lluniau
- ffynonellau golau fflachiog cyffredin, pryd a sut all amleddau ffynonellau golau achosi smotyn adlewyrch yn y lens ac effeithio ar ffenestri ongl y glicied caead ynghyd â sut all blwch tywyllu (matte boxes) a'r atalyddion (flags) ddatrys hyn
- y berthynas rhwng amledd a ffenestri ongl y glicied caead
yr agweddau o’r gweithrediadau camera i'w monitro gan gynnwys lefelau batri a phryd i ail-lenwi ffilm y saethiadau
- sut i awgrymu datrysiadau i unrhyw broblemau neu gyfyngiadau yn dringar
- y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad gan gynnwys cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camera a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol