Gosod a symud camerâu i fframio a llunio saethiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a symud camerâu i fframio a llunio saethiadau yn unol â gofynion y cynhyrchiad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.
Mae'n ymwneud â gosod a symud camerâu, fframio a llunio lluniau i fodloni'r gofynion esthetig, technegol a'r gofynion o ran dilyniant, cydweithio gydag eraill i gyflawni'r deilliant dymunol a monitro ansawdd esthetig a thechnegol y llun.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr Camera ac eraill sydd ynghlwm yn uniongyrchol â'r gwaith o lunio'r saethiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis safleoedd ar gyfer saethiadau rydych wedi cytuno arnyn nhw gyda'r gweithwyr perthnasol, sy'n ymarferol ac sydd ddim yn amharu gyda safleoedd camerâu eraill
- dewis safleoedd camerâu lle mae'r persbectif, fframiad a chyfansoddiad y lluniau'n bodloni'r gofynion
- cynnal y fframiad a'r cyfansoddiad dymunol yn ystod saethiadau
- gwneud dyfarniad diogel ac annibynnol am yr amryw safleoedd camera angenrheidiol i wneud iawn am newidiadau yn safleoedd y perfformwyr ac amrywiadau eraill
- dewis onglau lensys (hyd ffocws) sy'n gweddu i arddull y symudiadau camera ac sy'n cyflawni'r fframiad a'r cyfansoddiad dymunol
- gofalu nad ydy symudiadau'r camera yn amharu ar bobl eraill
- fframio a llunio lluniau er mwyn bodloni'r arddulliau cynhyrchu gofynnol a'r awyrgylch arfaethedig ar gyfer pob saethiad
- fframio a llunio pob saethiad er mwyn cydymffurfio gyda'r dilyniant gweledol derbyniol a chydweddu â llinell edrych saethiadau eraill yn y drefn arfaethedig
- fframio a llunio saethiadau gan ddwyn i ystyriaeth unrhyw brosesau labordy, ôl-gynhyrchu neu effeithiau cymysgu gweledol arfaethedig
- gwirio bod modd cyflawni unrhyw symudiadau camera dymunol a'r effeithiau technegol dymunol yn unol â'r dulliau diogel o weithio
- fframio a llunio lluniau gan ystyried y cymhareb (cymarebau) agwedd gofynnol
- trefnu llwybr, amseriadau a phwyntiau cychwyn a gorffen unrhyw symudiadau camera sy'n cynnal y cyfansoddiad dymunol a'r arddull y cytunwyd arni drwy gydol pob saethiad
- cadarnhau bod ansawdd y llun yn bodloni'r safonau esthetig a thechnegol
- cofnodi a datrys unrhyw broblemau ymarferol sy'n rhwystro'r cyfansoddiad dymunol
- cyfathrebu gyda pherfformwyr a'r criw ynghylch amrywiadau o ran safleoedd, symudiadau neu saethiadau cymhleth ar adegau priodol
- ail-greu saethiadau, a gafodd eu cadarnhau yn ystod unrhyw ymarferion, yn ystod saethu
recordio saethiadau defnyddiadwy gyda chyfansymiau derbyniol o ffilm cyn ac ar ôl saethu
gofalu bod yr holl symudiadau camera, graddio a newidiadau ffocws arwahanol yn cydweithio i gyflawni’r deilliannau dymunol
cydweithio gyda'r criw a'ch cydweithwyr cynhyrchu'n barhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion cyfansoddiad lluniau: sut i lunio lluniau o ran y siâp, llinell, gwead, arlliw, lliw a chymesuredd; a'u perthynas gyda'i gilydd, yn enwedig pan fo nhw'n berthnasol i luniau sy'n symud
- sut mae safle'r camera, uchder y lens, y pellter o'r goddrych a safle ochrol yn effeithio ar fframiad a chyfansoddiad y saethiad
- sut mae safle'r camera, ongl y lens a symudiadau'r camera yn effeithio ar bersbectif y saethiadau o ran màs, llinell, arlliw, gwead, lliw a pharalacs
- sut i gyflawni'r dyfnder maes gofynnol
- pa gymhareb agwedd sydd ei angen ar gyfer y saethiad, a oes modd gweld y llun mewn unrhyw gymhareb neu gymarebau agwedd arall yn dilyn hynny a sut i addasu'r fframiad a chyfansoddiad i ystyried gwahanol gymarebau agwedd
- sut i bennu'r cyfyngiadau a ellir eu gosod ar symudiadau'r camerâu a'r cyfarpar ategol
- y problemau technegol neu ymarferol arfaethedig a all rwystro'r cyfansoddiad dymunol a sut gellir ymdrîn â'r rhain yn effeithiol
- sut y caiff saethiadau eu gosod mewn trefn a sut mae trefn saethiadau yn effeithio ar gyfansoddiad pob llun unigol
- sut i fframio saethiadau er mwyn caniatáu unrhyw gymysgiadau, toddiadau, disodliadau neu drosiadau eraill
- sut allai prosesau labordy, ôl-gynhyrchu neu effeithiau cymysgu gweledol effeithio ar y fframiad a chyfansoddiad pan fo troslythreniadau neu sgriniau-hollt fel rhan o ddilyniannau
- sut i fframio a llunio saethiadau a chynnal y llun wedi'i gyfansoddi drwy unrhyw gamera, goddrych neu symudiadau'r perfformwyr
- pa onglau lensys (hyd ffocws) sy'n gweddu i wahanol fathau o symudiadau camera
- sut mae llinell edrych y perfformwyr yn effeithio ar y cyfansoddiad a'r fframiad
- lle i ganfod gwybodaeth am arddull y cynhyrchiad y cytunwyd arni ac awyrgylch arfaethedig y saethiad
- pryd mae hi'n briodol i gyfathrebu gyda pherfformwyr ac eraill, un ai'n uniongyrchol neu drwy drydydd parti, yn ymwneud ag amrywiadau mewn safleoedd a symudiadau, i gyflawni'r cyfansoddiad gofynnol a sut i wneud hynny mewn ffordd adeiladol
- sut i gyfathrebu gyda'ch cydweithwyr sy'n rhan o'r cynhyrchiad yn ystod saethiadau cymhleth i gyflawni'r saethiadau dymunol gan gynnwys saethiadau craen
- yr holl ddulliau cyfredol o ymdrin â dilyniant gweledol
- yr holl fodelau camera, ategolion a lensys caiff eu defnyddio'n gyfredol ynghyd â hen fodelau
- sut i glosio, newid ffocws a symudiadau camera arwahanol gan gynnwys panio, gwyro, craenio neu dracio
- diben a buddion recordio ffilm cyn ac ar ôl saethu
- goblygiadau gor-saethu ar yr amser amlyncu a golygu
- y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch cyfredol, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau a gweithdrefnau eraill ar gyfer ffyrdd diogel o weithio a phwy i gysylltu gyda nhw ynghylch y rhain
- unrhyw ffactorau neu ofynion ynghylch technegau symudiadau camera a all effeithio ar yr amgylchedd saethu neu effeithio ar eich iechyd a diogelwch chi ac eraill