Cadw a darparu cyflenwad o gyfarpar camera a deunyddiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chadw a darparu cyflenwad o gyfarpar a deunyddiau camera ar gyfer saethiadau. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys chadw cyflenwad digonol, storio cyfarpar a deunyddiau, darparu cyfarpar a deunyddiau sy'n barod i'w defnyddio, cadw cofnodion dyddiol o'r defnydd o gyfarpar a'r cyflenwad, dychwelyd cyfarpar nad oes eu hangen rhagor a dosbarthu gwaith papur i'r tîm cynhyrchu.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am gadw a darparu deunyddiau camera gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr Clepio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadw cyflenwad digonol o'r cyfarpar a deunyddiau camera gofynnol ar gyfer saethiadau
- trin cyfarpar a deunyddiau mewn ffyrdd sy'n diogelu eu cyflwr
- storio cyfarpar a deunyddiau camera mewn mannau diogel
- cadw cofnodion eglur a chywir o holl nwyddau traul yr adran camera
- cadarnhau ydy'r cyfarpar camera gofynnol ar gael gyda'r cyflenwyr a llogwyr priodol
- cyfathrebu gyda'r bobl briodol ynghlwm â'r cynhyrchiad ynghylch y costau a threfniadau danfon
- cadarnhau amseriadau gyda'r bobl briodol er mwyn gofalu bod cyflenwad digonol o gyfarpar a deunyddiau camera i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- darparu cyflenwadau digonol o gyfarpar a deunydd camera pan fo'u hangen
- darparu cyfarpar a deunyddiau camera sy'n barod i'w defnyddio
- cadw cofnodion dyddiol, sy'n eglur a chywir, am yr holl gyfarpar a deunydd camera rydych yn eu defnyddio, eu derbyn a'u hanfon
- trefnu dychwelyd unrhyw gyfarpar camera na fyddwch eu hangen rhagor yn unol â gweithdrefnau'r cynhyrchiad
- cwblhau a llunio copïau o'r holl waith papur gofynnol i'r bobl briodol ynghlwm â'r cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y technegau trin camerâu a goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu
- y cyflenwadau o gyfarpar a deunyddiau gan gynnwys camerâu, lensys a'r ategolion, cardiau cof camerâu digidol, cyflenwad ffilm, casiau camerâu ffilm a llechi digidol
- sut i osod a defnyddio system codau lliw ar gyfer cyflenwadau ffilm a blychau casiau wedi'u llwytho
- y gweithrediadau er mwyn gofalu bod cyfarpar yn barod i'w ddefnyddio gan gynnwys gwirio ei fod yn lân, wedi'i gynnal a chadw a bod y cardiau cof digidol wedi'u ffurfio
- y gweithdrefnau a nwyddau glanhau a chynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio gan gynnwys glendid yr holl arwynebau gwydr
- sut i osod a chyflenwi ystafell dywyll lân a chwbl dywyll ynghyd â man llwytho
- pam ei bod hi'n bwysig i gynnal perthnasau gwaith da gyda chyflenwyr a llogwyr cyfarpar camera
- y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel gweithredwyr camera, a chynorthwywyr 1af neu dynwyr ffocws, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- sut i storio camerâu a lensys yn ddiogel
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol