Cyd-drefnu’r criw i osod camerâu yn eu safleoedd priodol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyd-drefnu'r criw i osod camerâu er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad. Mae hyn yn ymdrîn ag amseru a'r llwybrau y bydd y camerâu'n eu dilyn. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn cynnwys dehongli gofynion saethiadau, dehongli gofynion o ran y camera ar gyfer pob gweithredwr camera, cydymffurfio gyda gofynion diogelwch, cyfathrebu gyda'r criw a phobl eraill perthnasol a datrys problemau.
Mae'r safon hon ar gyfer Gweithredwyr Camera ac unrhyw un arall sy'n gyfrifol am gyd-drefnu'r criw i osod camerâu yn eu safleoedd priodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ynghylch dulliau diogel o weithio yn ymwneud â symud cyfarpar camera'n ddiogel
- gofalu bod unrhyw dystysgrifau diogelwch neu asesiadau risg gofynnol ar gael, eu bod nhw wedi'u diweddaru ac wedi'u gwirio
- dehongli'r gofynion ynghylch saethiadau ar ffurf cyfarwyddiadau arwahanol ar gyfer y gwahanol weithredwyr sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad
- rhannu gwybodaeth eglur gyda'r criw am safleoedd y camerâu, llwybrau'r camerâu ac amseriad y symudiadau
- gwirio bod y criw yn llunio nodiadau a marciau er mwyn gofalu y caiff saethiadau wedi'u hymarfer eu hail-greu'n fanwl gywir
gofalu bod y criw yn derbyn cyfleusterau cyfathrebu digonol sy'n gweddu i'r cynyrchiadau a'r cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio
- trafod llwybrau ac amseriadau symudiadau'r camerâu gyda'r holl bobl berthnasol
- goruchwylio symud camerâu ar y cyflymder cywir i gyd-fynd gydag awyrgylch a hyd y saethiadau, gan ddwyn i ystyriaeth unrhyw symudiadau'r artistiaid, tempo cerddorol neu unrhyw gymhelliant arall yn ymwneud â'r perfformiad
- trafod problemau gyda'r bobl berthnasol ar unwaith
- addasu symudiadau fel y cytunwyd er mwyn datrys problemau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, canllawiau'r diwydiant ac unrhyw gyfarwyddiadau perthnasol eraill yn ymwneud â'r cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio, ynghyd â sut i gydymffurfio gyda dulliau diogel o weithio
- sut i gadarnhau bodolaeth tystysgrifau diogelwch ac asesiadau risg ynghyd â'u dilysrwydd
- beth mae asesiadau risg yn ymdrin â nhw a'r gwaith ynghlwm â chyflawni asesiadau risg
- sut i gydnabod cyfrifoldebau unrhyw staff sy'n derbyn cyfarpar gan y perchennog gwreiddiol, gan ysgwyddo'r cyfrifoldeb cyffredinol dros ddefnyddio'r cyfarpar yn ddiogel
- y gofynion ynghylch gosod camerâu yn y safleoedd cywir
- y gwahanol griwiau camera a'u perthynas gyda'i gilydd
- sut i bennu cyfrifoldebau i'r staff sydd ar gael
sut i gyd-drefnu’r criw a chyfathrebu â nhw
- marciau cymeradwy y diwydiant ar gyfer cofnodi symudiad a safleoedd camerâu
- sut i adnabod pwy all gael eu heffeithio gan symudiadau'r camera
gyda phwy ddylech drafod problemau
- pa broblemau all godi, a sut i addasu gweithrediadau i fynd i'r afael â nhw