Monitro ansawdd esthetig a thechnegol y saethiadau

URN: SKSC18
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro ansawdd esthetig a thechnegol saethiadau gan ystyried gofynion y cynhyrchiad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol ar gyfer saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.

Mae'n ymwneud â chyfathrebu gyda chyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr ffotograffiaeth a phobl eraill perthnasol gan awgrymu technegau camera neu gyfarpar i fodloni neu wella arddull weledol, gweithredu i gyflawni arddull weledol a gwirio saethiadau i ofalu eu bod yn bodloni'r gofynion esthetig a thechnegol.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr camera ar saethiad un camera neu sy'n goruchwylio tîm camera ar saethiad aml-gamera.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol ynghylch y gofynion technegol ac esthetig ar adegau priodol yn ystod saethiadau
  2. awgrymu technegau a chyfarpar camera a all wella'r arddull weledol a'r cyfarwyddyd y cytunwyd arno ynghyd â bodloni gofynion y cynhyrchiad 
  3. trafod unrhyw ofynion ychwanegol yn ymwneud â'r cyfarpar gyda'r bobl berthnasol ar adegau priodol
  4. awgrymu dewis cyfarpar sy'n caniatáu i'r cynhyrchiad fod yn hyblyg a gofynion tebygol wrth gefn
  5. awgrymu cyfarpar camera a grip lle mae eu defnydd disgwyliedig yn bodloni'r canllawiau diogelwch
  6. cyfrannu tuag at y dewis o lensys o wahanol fathau a meintiau i fodloni'r gofynion technegol ac artistig
  7. hysbysu'r bobl neu'r adrannau perthnasol am ofynion grip a chamera cyn gynted â phosibl, gan eu cynghori ynghylch materion technegol pan fo angen
  8. gofalu eich bod chi neu bobl eraill yn cyflawni'r gweithrediadau cywir i fodloni'r gofynion esthetig a thechnegol
  9. monitro saethiadau i ofalu bod y canlyniadau cyffredinol yn cyd-fynd ac yn gyson gydag arddulliau'r cynhyrchiad y cytunwyd arnyn nhw   
  10. gofalu bod pob saethiad yn bodloni'r gofynion esthetig a thechnegol y cytunwyd arnyn nhw
  11. awgrymu dewisiadau eraill dichonol i'r bobl berthnasol pan na chaiff y gofynion esthetig neu dechnegol eu bodloni 
  12. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer dulliau diogel o weithio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i bennu gofynion technegol ac esthetig cynyrchiadau a phwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw yn eu cylch gan gynnwys cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr ffotograffiaeth ynghyd â'r mathau o gyfarpar camera, eu nodweddion, defnyddiau, buddion a'r cyfyngiadau pan fo'n briodol
  2. y feddalwedd ar gyfer cyfradd fframiau ac effaith cyfradd fframiau ar gof camerâu
  3. dulliau cyfredol o ddadansoddi sgriptiau, cyllidebu a llunio amserlenni a sut i gyfrannu tuag atyn nhw
  4. dulliau ac arddulliau cyfredol y cynhyrchiad
  5. sut i gyflwyno asesiadau a gofynion yn eglur
  6. sut i ddehongli gofynion ffotograffig pobl eraill gan gynnwys gofynion y Cyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Ffotograffiaeth
  7. y gwahanol fathau o lensys a'u nodweddion
  8. a oes yna unrhyw brosesau effeithiau arbennig a ragwelir gan gynnwys effeithiau labordy neu effeithiau fideo ôl gynhyrchu
  9. sut i adnabod a manteisio ar ofynion sgiliau arbenigol
  10. sut i oruchwylio, cyd-drefnu a rheoli chi'ch hun ac eraill er mwyn cyflawni deilliannau
  11. unrhyw ffactorau a all effeithio ar weithrediadau'r camera a sut i fodloni'r heriau hyn
  12. prif weithrediadau a gofynion swyddi'r timau camera
  13. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, canllawiau'r diwydiant a sut i gydymffurfio gyda dulliau diogel o weithio
  14. ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â goblygiadau yswiriant y saethiadau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC31

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; criw camera; saethiad ffilm; gripiau; ansawdd technegol; ansawdd esthetig; gofynion artistig; digwyddiadau byw; arddangosfeydd