Trefnu ar gyfer a goruchwylio’r criw technegol yn ystod saethiadau ar leoliad

URN: SKSC17
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu ar gyfer a goruchwylio aelodau'r criw technegol a chrafft yn ystod saethiadau ar leoliad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Ymysg yr aelodau criw posibl y mae'r rheiny sydd ynghlwm â recordio sain, goleuo, gweithredu Tapiau Fideo (VT), gweithredu llun, peirianneg teledu, gripiau, rigiwr, effeithiau arbennig, y rheiny sydd ynghlwm â gweithrediadau sefydlog, o'r awyr a thanddŵr ac unrhyw un arall gyda sgiliau a chyfarpar arbennig.

Mae'n ymwneud â threfnu ar gyfer y criw gyda'r sgiliau gofynnol, eu gosod yn y safleoedd cywir, eu goruchwylio drwy gydol y saethiadau, mynd i'r afael gyda thywydd a phroblemau amgylcheddol eraill, rheoli egwylion bwyd a lles, gofalu eu bod yn cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch, datrys problemau a chyfathrebu gyda'r adran cynhyrchu ac adrannau eraill.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n trefnu ar gyfer a goruchwylio aelodau criw technegol a chrafft yn ystod saethiadau ar leoliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. trefnu cyflogi criw sy'n meddu ar y sgiliau penodol neu arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y cynyrchiadau
  2. gwirio bod staff digonol i gyflawni swyddi gweithredol a gweithio yn lle staff yn ystod egwylion bwyd a lles pan fo angen
  3. gwirio bod y criw yn ymwybodol o, ac yn cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau Iechyd a Diogelwch perthnasol, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill yn ymwneud â'r cyfarpar maen nhw'n ei ddefnyddio ynghyd â dulliau diogel o weithio
  4. gwirio bod y criw wedi derbyn y Cyfarpar Diogelu Personol gofynnol a'u bod yn eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  5. gwirio y caiff unrhyw offer diogelu gofynnol i warchod cyfarpar rhag y tywydd ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr   
  6. cynghori'r tîm cynhyrchu am lwfans amser teithio i ac o leoliadau ar adegau priodol
  7. rhoi gwybod i aelodau criw am ofynion rigio technegol a gofalu bod yr holl gyfarpar sydd wedi'i rigio yn gweithio yn unol â gofynion y cynhyrchiad a'r gofynion diogelwch
  8. pennu criw i swyddi gweithredol sy'n dwyn i ystyriaeth eu sgiliau penodol neu arbenigol
  9. rhoi rhybudd digonol i'r tîm cynhyrchu am egwylion bwyd a lles sydd wedi'u trefnu a fydd yn effeithio ar amserlenni'r cynhyrchiad
  10. trefnu y caiff y criw eu cylchdroi rhwng swyddi gweithredol er mwyn caniatáu ar gyfer egwylion bwyd a lles
  11. hysbysu'r criw am amserlenni cyfredol y cynhyrchiad bob amser
  12. goruchwylio a chyd-drefnu'r tîm cyfan drwy gydol y saethiadau, gan gynnig adborth a chyngor i aelodau'r criw ar adegau priodol
  13. ymddwyn fel canolwr a datrys unrhyw wrthdaro byddiannau rhwng aelodau'r tîm a phobl eraill ynghlwm â'r cynyrchiadau
  14. ymateb i'r holl ymholiadau iechyd a diogelwch yn ymwneud â'ch maes cyfrifoldeb penodol chi, ar unwaith
  15. cynghori'r tîm cynhyrchu a'r adrannau eraill am ddefnyddio'r sgiliau yn ymwneud â'ch maes arbenigedd chi ar adegau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gofynion y criw o ran y cynhyrchiad
  2. amserlen y cynhyrchiad, gan gynnwys unrhyw newidiadau a all godi yn ystod y saethiad
  3. gofynion technegol y cynhyrchiad, yn berthnasol i'r cyfarpar camera, rigio a gweithredu'r camera
  4. y trefniadau ar gyfer cyflogi criw
  5. sut i adnabod criw sy'n meddu ar unrhyw sgiliau penodol neu arbenigol a all fod yn ofynnol
  6. a oes angen Cyfarpar Diogelu Personol ar staff, a phryd i'w ddefnyddio
  7. yr adegau priodol yn ystod saethiadau i gyfathrebu gydag aelodau'r criw, yr adran gynhyrchu a'r adrannau eraill
  8. y gofynion cyfreithiol ynghlwm â'r egwylion bwyd a lles a sut i gynllunio ar eu cyfer  
  9. sut i adnabod aelodau'r criw fyddai angen cefnogaeth neu gyngor ychwanegol
  10. sut i fanteisio i'r eithaf ar gryfderau a sgiliau penodol y criw sy'n gweithio i chi
  11. sut i gyfathrebu'n dringar a diplomataidd a sut i fynd i'r afael gydag unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng unigolion creadigol
  12. sut i gyd-drefnu tîm i ofalu cysondeb o ran ffurf y rhaglen
  13. sut i fonitro perfformiad y criw sy'n gweithio i chi
  14. y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol, asesiadau risg, a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio, dulliau diogel o weithio a sut i'w gweithredu, gan gynnwys unrhyw ad-drefniadau yn sgil tywydd garw neu drafferthion eraill yn ymwneud â'r amgylchedd
  15. a oes angen offer i ddiogelu unrhyw gyfarpar rhag y tywydd, a phryd i'w ddefnyddio
  16. gweithdrefnau'r cynhyrchiad yn ymwneud â lwfans amser teithio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC30

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; rheoli; arwain; saethiadau aml-gamera; criw camera; ymarferion gwaith diogel; deddfwriaeth iechyd a diogelwch; lleoliad