Trefnu ar gyfer a goruchwylio’r criw camera yn ystod saethiadau mewn stiwdio

URN: SKSC16
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu ar gyfer a goruchwylio gweithredwyr camera a chynorthwywyr camera yn ystod saethiadau mewn stiwdio. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.

Mae hyn yn cynnwys trefnu ar gyfer criw sy'n meddu ar y sgiliau perthnasol, eu gosod yn y safleoedd cywir, eu goruchwylio drwy gydol y saethiadau, rheoli egwylion bwyd a lles, gofalu eu bod yn cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch, datrys problemau a chyfathrebu gyda'r adran gynhyrchu ac adrannau eraill. 

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n trefnu ar gyfer ac yn goruchwylio gweithredwyr camera neu gynorthwywyr camera yn ystod saethiadau mewn stiwdios.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. trefnu cyflogi criw sy'n meddu ar y sgiliau penodol neu arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y cynyrchiadau
  2. gwirio bod staff digonol i gyflawni swyddi gweithredol gofynnol a gweithio yn lle staff eraill pan fo egwylion bwyd neu les
  3. gwirio bod y criw yn ymwybodol o, ac yn cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau Iechyd a Diogelwch perthnasol, asesiadau risg, cyfarwyddiadau eraill yn ymwneud â'r cyfarpar maen nhw'n ei ddefnyddio, ynghyd â dulliau diogel o weithio
  4. gwirio  bod y criw wedi derbyn y Cyfarpar Diogelu Personol gofynnol a'u bod yn eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  5. rhoi gwybod i'r criw am ofynion rigio technegol a gofalu bod yr holl gyfarpar rigio yn gweithio yn unol â gofynion y cynhyrchiad a'r gofynion diogelwch
  6. pennu criw i gyflawni swyddi gweithredol sy'n dwyn i ystyriaeth eu sgiliau penodol neu arbenigol
  7. rhoi rhybudd digonol i'r tîm cynhyrchu am yr egwylion bwyd a lles sydd wedi'u trefnu a fydd yn effeithio ar amserlenni'r cynhyrchiad
  8. trefnu y caiff y criw eu cylchdroi rhwng swyddi gweithredol er mwyn caniatáu ar gyfer egwylion bwyd a lles
  9. hysbysu'r criw am amserlenni cyfredol y cynhyrchiad bob amser
  10. goruchwylio a chyd-drefnu'r tîm cyfan drwy gydol y saethiad gan gynnig adborth a chyngor i aelodau'r criw ar adegau priodol
  11. ymddwyn fel canolwr a datrys unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng aelodau'r tîm a phobl eraill ynghlwm â'r cynyrchiadau
  12. ymateb i'r holl ymholiadau iechyd a diogelwch yn ymwneud â'ch maes cyfrifoldeb penodol chi, ar unwaith
  13. cynghori'r tîm cynhyrchu a'r adrannau eraill am ddefnyddio'r sgiliau yn berthnasol i'ch maes arbenigedd chi ar adegau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y criw sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad

  2. amserlen y cynhyrchiad, gan gynnwys unrhyw newidiadau a all godi yn ystod y saethiad

  3. gofynion technegol y cynhyrchiad, sy'n berthnasol i'r cyfarpar camera, rigio a gweithredu'r camera
  4. y trefniadau ar gyfer cyflogi criw
  5. sut i adnabod criw sy'n meddu ar unrhyw sgiliau penodol neu arbenigol a all fod yn ofynnol
  6. a ydy Cyfarpar Diogelu Personol yn ofynnol ar gyfer y staff a phryd i'w ddefnyddio
  7. y gofynion cyfreithiol ynghlwm ag egwylion bwyd a lles a sut i gynllunio ar eu cyfer
  8. sut i adnabod criw a fyddai angen cefnogaeth neu gyngor ychwanegol
  9. sut i fanteisio i'r eithaf ar gryfderau a sgiliau penodol y criw sy'n gweithio i chi
  10. sut i gyfathrebu'n dringar a diplomataidd a sut i fynd i'r afael ag unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng unigolion creadigol
  11. sut i gyd-drefnu tîm i sicrhau cysondeb o ran ffurf y rhaglen
  12. sut i fonitro perfformiad y criw sy'n gweithio i chi

y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio, dulliau diogel o weithio a sut i'w cymhwyso


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC29

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; rheoli; arwain; saethiadau aml-gamera; criw camera; ymarferion gweithio’n ddiogel; deddfwriaeth iechyd a diogelwch; stiwdio