Dad-rigio cyfarpar camera ar ôl saethiadau
URN: SKSC15
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dad-rigio'r camerâu, lensys a'r ategolion ar ôl saethiadau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hefyd fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae hyn yn ymwneud â dad-osod ategolion a lensys, tynnu camerâu oddi ar fowntiau, datgymalu camerâu, gwirio a thrwsio unrhyw ddifrod neu wallau ynghyd â glanhau a phacio cyfarpar.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws neu weithredwyr Camera unigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofalu bod y camerâu'n ddiogel a'u gwarchod rhag unrhyw ddifrod yn sgil y tywydd
- dad-osod ategolion a lensys a thynnu camerâu oddi ar fowntiau yn y drefn gywir gan ddefnyddio'r technegau cywir hefyd
- datgymalu camerâu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- gwirio cyfarpar am wallau, toriadau, colled dŵr, baw a diffygion
- glanhau unrhyw gyfarpar camera sydd wedi dod i gyswllt â'r ddaear, dŵr neu sylweddau niweidiol eraill
- trwsio unrhyw namau, doriadau neu ddiffygion sy'n berthnasol i'ch maes arbenigedd chi, gan roi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw beth na allwch chi eu trwsio
- defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) pan fo'n briodol yn sgil y gofynion iechyd a diogelwch
- storio cyfarpar camera yn eu casys gwreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfarpar cyfredol a hen fodelau gan gynnwys lensys, hidlwyr, ategolion lensys, pennau, coesau a throliau
- y technegau ar gyfer dad-rigio camerâu
- y technegau trin camerâu cyfredol a'r math o ddifrod posibl os byddwch yn cam-drin camerâu a'r cyfarpar ac ategolion cysylltiedig
- sut i storio cyfarpar camera yn ddiogel
- y cyfarpar camera mae'n bosib y bydd angen ichi eu glanhau fel lensys, mowntiau, ceblau a thrybeddau
- y gweithdrefnau a deunyddiau cyfredol i lanhau lensys
- eich arbenigedd yn ymwneud â thrwsio namau, toriadau a diffygion a phryd y dylech chi eu cyfeirio at bobl eraill
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol
- a oes angen Cyfarpar Diogelu Personol ai pheidio
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSCFP9
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; lensys; ategolion; dad-rigio; modelau camera; cyfarpar; cyflenwyr