Gosod system monitro amlygiad
URN: SKSC13
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod system monitro amlygiad gan ddefnyddio offer amlygu a rheolyddion camera. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.
Mae'n ymwneud â gosod ffenestri camerâu, gwirio'r offer amlygu, gosod ac addasu monitorau a ffenestri camerâu a chloi neu farcio rheolyddion.
Mae'r safon ar gyfer unrhyw aelod o'r criw camera sy'n gosod system monitro amlygiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gosod ffenestri'r camerâu er mwyn cyflawni'r amlygiad gofynnol
- gwirio bod gwybodaeth yr offer amlygu'n dangos y lefelau priodol
- gosod monitorau a ffenestri camerâu i gynnig yr amodau gwylio gorau posibl
- gwirio signalau ac addasu monitorau i gyflawni'r gosodiad monitor cywir
- cloi neu farcio rheolyddion monitro yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i osod ffenestri camerâu
- sut mae gwahanol offer amlygu'n pennu lefelau amlygu gan gynnwys sebras, histogramau a lliwiau ffug
- goblygiadau ymarferol gwahanol lefelau gosodiadau offer amlygu
- sut i ddehongli gwybodaeth am offer amlygu yn ymwneud â gama a 'knee'
- y meini prawf ar gyfer dewis y safleoedd gorau posibl ar gyfer monitorau a'r cyfarpar gwirio
- y cyfarpar gwirio signalau er mwyn cyflawni'r gosodiad monitor cywir
- sut i wirio bod rheolyddion yn ddiogel
- sut i farcio rheolyddion pan nad oes modd eu diogelu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSC20
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; amlygiad camerâu; generadur signalau; amlygiad; ffocws; amledd y glicied caead; monitro cyfarpar; hidlwyr camerâu; ffenestri camerâu