Gwirio swyddogaethau’r camerâu cyn saethiadau

URN: SKSC12
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio swyddogaethau'r camerâu cyn saethiadau. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu digidol neu ffilm.  Fe allai fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.

Mae hyn yn cynnwys cadarnhau bod yr ategolion yn sownd ac yn ddiogel, gwirio bod camerâu ac ategolion yn gweithio, cynnal profion a phrofion maes ar ymarferoldeb, gwirio ategion y camerâu, gwirio'r cyflenwad pŵer a datrys problemau.

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws neu weithredwyr Camera unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod yr holl ategolion gofynnol wedi'u gosod ac yn ddiogel
  2. cynnal profion cydnabyddedig i sicrhau bod y camerâu a'r holl ategolion yn gweithio'n ddigonol
  3. dadansoddi canlyniadau'r profion gan gymharu â gofynion y cynhyrchiad 
  4. gweithredu camau adfer pan nad ydy canlyniadau'r profion yn bodloni'r gofynion
  5. gwirio bod holl swyddogaethau gofynnol y camerâu'n gweithio yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  6. saethu blaenau ffrâm yn y gymhareb agwedd ofynnol ar gyfer cynyrchiadau
  7. cadarnhau cyflwr, rhwyddineb defnyddio a digonolrwydd unrhyw drybeddau, pennau ac ategolion lensys
  8. gwirio bod ffynonellau pŵer digonol a dibynadwy ar gyfer saethiadau sydd wedi'u cynllunio
  9. sicrhau bod unrhyw ddeunydd gofynnol i warchod y cyfarpar rhag y tywydd o ansawdd digonol ac yn ffitio'r cyfarpar penodol
  10. cyfathrebu gyda phobl ac adrannau eraill pan fo'n ofynnol fel rhan o'ch gwaith
  11. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau ac awgrymu datrysiadau addas
  12. cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau perthnasol pan fo'r camerâu'n barod i saethu
  13. cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​prif nodweddion camerâu, lensys ac ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
  2. perfformiad lensys macro
  3. y technegau trin camerâu a goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu
  4. yr effeithiau ffurfiau camera a hyd ffocws ar ongl weld a sut i ddadansoddi dyfnder y maes a holltiadau ffocws
  5. dyfnderau ffocws fflansys a'u goblygiadau
  6. sut i asesu cyfliniad closio ac ôl-ffocws
  7. sut mae cylchoedd dryswch yn effeithio ar eglurder lluniau
  8. ffynonellau golau fflachiol cyffredin a phryd a sut gall amleddauffynonellau golau achosi smotyn adlewyrch yn y lens ac effeithio ar ffenestri ongl y glicied caead

agweddau o’r camerâu a'r ategolion y dylech chi eu profi gan gynnwys graddnodiadau cinetape, systemau rheoli lensys, monitorau waveform a thrawsyryddion delweddau

  1. sut i ddefnyddio tablau am-edrych (TAE) a gweithredu gosodiadau'r ddewislen
  2. y technegau profi camerâu electronig a mecanyddol cyfredol gan gynnwys profion ffotograffi a sut i bennu gweithdrefnau a thechnegau profi a phrofi maes ar gyfer camerâu a lensys 
  3. y problemau cyffredin yn ymwneud â chanlyniadau profion a sut i'w datrys
  4. diben blaenau fframiau a sut i'w saethu mewn gwahanol gymarebau agwedd
  5. beth sydd ynghlwm â gwirio ffynonellau pŵer gan gynnwys addasrwydd a chyflwr ceblau a'r cysylltwyr a lefelau gwefr y batris
  6. sut i awgrymu datrysiadau i unrhyw broblemau neu gyfyngiadau mewn ffordd dringar
  7. y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, gan gynnwys cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camera, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
  8. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  9. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  10. gofynion y ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP5

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; profi; swyddogaethau; profion maes; paratoadau cyn-cynhyrchu; cynyrchiadau; modelau camera; cyfarpar