Llwytho ffilm mewn camera a gosod yr ategolion
URN: SKSC11
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud llwytho ffilm mewn camerâu a gosod ategolion. Mae'r safon hon yn berthnasol i gamerâu ffilm. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad ond mae'n fwy tebygol o fod yn berthnasol i ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu neu hysbysebion. Fe allai fod yn berthnasol i gynyrchiadau aml-gamera neu gamera unigol.
Mae'n ymwneud â gosod a diogelu casiau, lasio ffilm, lleihau sŵn y camera, ail-osod rhifyddion lluniau camera a gosod ac addasu ategolion.
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n gyfrifol am osod ffilm gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws a Chynorthwywyr Camera.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro defnydd y ffilm a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol pan fo angen newid y ffilm
- newid casiau ffilm ar adegau sy'n amharu cyn lleied â phosibl ar y saethiadau
- cadarnhau bod camerâu ffilm yn lân ac yn barod i dderbyn y casiau
- gosod a diogelu casiau yn y mannau priodol
- lasio ffilm ar hyd llwybrau ffilm fel ei fod yn rhedeg yn rhwydd pan gaiff y camerâu eu defnyddio
- addasu'r traw tynnu lawr fel bod sŵn y camera ffilm mor isel â phosibl
- ail-osod y rhifyddion darnau ffilm unwaith y byddwch chi wedi gosod y casiau
- gosod, addasu a defnyddio'r holl ategolion yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- cyfathrebu gyda phobl ac adrannau eraill pan fo'n briodol fel rhan o'ch gwaith
- gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif nodweddion y camerâu ffilm, lensys a'r ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
- y technegau trin camerâu, y math o ddifrod a all ddigwydd ynghyd â goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu a ffilm
- goblygiadau ffilm yn darfod yn ystod saethiad a sut a phryd i ymddwyn yn ymwthgar ynghylch gofynion newid y ffilm
- y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camerâu, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camerâu, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- y technegau i ddiogelu'r cyflenwad ffilm rhag y tywydd
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
- sut i ddehongli dangosyddion sy'n berthnasol i ddefnyddio ffilm
- sut i baratoi, gosod a diogelu casiau camerâu ffilm
- sut i lasio ffilm yn gywir
- sut i osod, addasu a defnyddio ategolion gan gynnwys monitorau ar y set, unedau rheolaeth o bell, unedau cysoni electronig, allwyryddion glaw a thapiau fideo
- sut i asesu cyflinelliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSCFP2
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; casiau camera; mathau o ffilm; ategolion camera; lasio ffilm; gofynion iechyd a diogelwch