Gosod camerâu, lensys ac ategolion

URN: SKSC10
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod camerâu, lensys ac ategolion. Fe allai hyn fod yn berthnasol i gamerâu digidol neu ffilm. Fe allai fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol ar saethiad aml-gamera neu un camera unigol.

Mae'n ymwneud â gwirio oes lensys, hidlwyr ac ategolion ar gael ynghyd a'u cyflwr, gosod a lefelu camerâu, cydosod rhannau'r camera, gosod lensys, cydosod ategolion mecanyddol a thrydanol, gwirio cydbwysedd y pennau uchaf ac addasu agorfeydd ac onglau'r glicied caead.

Mae'r safon hon yn berthnasol i un sy'n gosod camerâu, lensys ac ategolion gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws, Cynorthwywyr Camera neu Weithredwyr Camera.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio bod yr holl lensys, hidlwyr ac ategolion gofynnol ar gael a'u bod mewn cyflwr digonol hefyd
  2. defnyddio'r offer priodol i osod y camerâu, lensys ac ategolion
  3. gosod camerâu ar y pennau cywir yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  4. gofalu bod y camerâu yn lefel pan fo nhw'n troi 360 gradd
  5. gwirio bod yr holl gloeon panio a gwyro, rheolyddion symudol pen uchaf y camera a'r cloeon canolog yn gwbl ddiogel
  6. gosod cyfansoddion corff y camera gan gydumffurfio â'r cyfluniadau gofynnol
  7. gosod lensys mewn mowntiau'n ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr gan osod ategiadau pan fo angen
  8. gosod ategolion mecanyddol a thrydanol yn unol â gofynion y cynhyrchiad

  9. gofalu bod pennau uchaf y camera yn cydbwyso wedi ichi ychwanegu'r lensys a'r ategolion

  10. gosod y camerâu a'r mowntiau yn y safleoedd cywir ar gyfer saethu
  11. addasu agorfeydd ac onglau'r glicied caead fel eu bod yn cydymffurfio â'r gosodiadau penodol
  12. cyfathrebu gyda phobl ac adrannau eraill fel rhan o'ch gwaith pan fo angen
  13. rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw broblemau ynghyd ag awgrymu datrysiadau priodol
  14. gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prif nodweddion y camerâu, lensys a'r ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
  2. y technegau a'r offer trin camerâu ynghyd â'r goblygiadau yn sgil difrod i gamerâu
  3. y gweithdrefnau glanhau a chynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio gan gynnwys glendid holl arwynebau gwydr
  4. sut i wirio cyflwr gofynnol lensys a hidlwyr gan ofalu eu bod yn lân, heb unrhyw graffiadau a bod yr irisau'n gweithio 
  5. sut i osod cyfansoddion corff y camera
  6. gweithrediad cloeon panio a gwyro, rheolyddion symudol pen y camera a chloeon llwyfan a chanolog ynghyd â sut i gynnal a chadw a storio pennau symudol
  7. sut i osod lensys heb ddifrodi'r ymylon
  8. yr ategolion mecanyddol a thrydanol gan gynnwys moduron ffocysu a chlosio 
  9. sut i osod blychau matte heb raddoli goleuni
  10. sut i osod hidlwyr ar yr aliniad cywir
  11. y cyfryngau recordio gofynnol ar gyfer y math penodol o gamera a sut i'w osod neu ei lwytho gan gynnwys sut i ffurfio cyfryngau recordio digidol
  12. sut i awgrymu datrysiadau i unrhyw broblemau neu gyfyngiadau mewn ffordd dringar
  13. rolau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camera, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
  14. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  15. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  16. gofynion y ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP1

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; lensys; gosod; ategolion; modelau camera; cyfarpar camera