Monitro a gwerthuso gwaith cynnal a chadw offer a systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE9
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso gweithgareddau cynnal a chadw yn unol â gofynion ansawdd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall gweithgareddau cynnal a chadw fod yn rhai wedi'u trefnu, rhai arferol neu rai mewn argyfwng.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n rheoli gwaith cynnal a chadw systemau darlledu a chyfryngau a'r rheiny sy'n gweithio fel technegwyr a pheirianwyr systemau darlledu a chyfryngau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro prosesau cynnal a chadw ar adegau cyfleus
- monitro cyflenwad a defnydd adnoddau
- cadarnhau bod deunyddiau gaiff eu defnyddio yn ystod prosesau cynnal a chadw yn cydymffurfio gyda'r manylebau
- cadarnhau bod dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw sydd wedi'u defnyddio yn addas ar gyfer yr offer a'r systemau gaiff eu cynnal a chadw
- gwirio cofnodion ac amserlenni cynnal a chadw yn erbyn cynlluniau cynnal a chadw ac adnabod unrhyw amrywiadau
- sicrhau nad ydy prosesau cynnal a chadw yn achosi unrhyw doriadau annisgwyl yn y gwasanaeth
- gwirio bod unrhyw broblemau gyda phrosesau cynnal a chadw yn cael eu hadnabod a'u datrys ar frys
- gwirio bod allgynhyrchion prosesau cynnal a chadw yn effeithiol ac yn cydymffurfio gyda'r manylebau
- gwirio bod prosesau cynnal a chadw yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau a chanllawiau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
- rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau
- y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu gyda systemau rhwydwaith
- sut i flaenoriaethu problemau yn ystod gwaith gweithredu a chynnal a chadw a pham ei fod yn bwysig eu datrys mewn pryd
- yr offer a thechnegau i adnabod a chywiro beth sy'n achosi diffygion mewn systemau ac offer darlledu
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- amodau cytundebau lefel gwasanaeth a gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
- dulliau monitro a gwerthuso addas
- dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw y dylid eu defnyddio
- gwahanol gamau o waith cynnal a chadw
- pam ei fod yn bwysig monitro defnydd deunyddiau a nwyddau bwytadwy, darnau sbâr a phrofi offer yn ystod ac ar ôl gwaith cynnal a chadw
- amrywiadau posibl o gynlluniau ac amserlenni all godi yn ystod gwaith cynnal a chadw oherwydd lefelau staffio, lefelau sgiliau, os ydy darnau sbâr a nwyddau bwytadwy ar gael, dulliau cyfathrebu, dosbarthu tasgau, oriau sydd wedi'u gweithio, adnoddau gwybodaeth, lefel a manyleb offer profi, lefel a manyleb offer a gweithdrefnau
- y cyfyngiadau amser sy'n bodoli mewn amgylchedd darlledu
- sut i werthuso effeithiolrwydd gwaith cynnal a chadw gan gynnwys dull ymateb, cyflymder ymateb a datrysiad a chyfraddau diffygion ailadroddus
- y meini prawf gwerthuso all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol fathau o brosesau cynnal a chadw
- sut i dderbyn gwybodaeth am anghenion adnoddau ac os ydynt ar gael
- rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau sefydliad perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael
- sut a phryd i rannu problemau gydag erail
Cwmpas/ystod
camau o waith cynnal a chadw gan gynnwys
- cadarnhau symptomau
- datgysylltu offer
- symud i'r ardal gynnal a chadw
- datgymalu
- dod o hyd i ddiffygion
- tynnu cydrannau
- ailosod
- cyflunio meddalwedd
- profi
- ailosod
- comisiynu
- trosglwyddo
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE9
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; cynnal a chadw; offer; systemau; monitro; gwerthuso;