Rheoli dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer offer neu systemau darlledu a chyfryngau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli dulliau cynnal a chadw ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau o'r safon ddisgwyliedig.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall gweithgareddau cynnal a chadw fod yn rhai wedi'u trefnu, rhai arferol neu rai mewn argyfwng.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n rheoli gwaith cynnal a chadw systemau darlledu a chyfryngau a'r rheiny sydd mewn swyddi peirianwyr systemau darlledu a chyfryngau a thechnegwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod amodau yn addas er mwyn cynnal dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw
- rhoi cyfarwyddiadau i bobl berthnasol
- derbyn gwybodaeth am weithgareddau cynnal a chadw gaiff eu cynnal
- cynnal amserlen cynnal a chadw gyfredol gaiff ei diweddaru
- gwirio bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gyflawni gan ddilyn gweithdrefnau ac yn rhoi'r canlyniadau sydd eu hangen
- gwirio bod systemau cefnogi peirianneg darlledu a chyfryngau yn gweithredu gan ddilyn y gweithdrefnau
- rheoli defnydd adnoddau er mwyn sicrhau bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal yn y ffordd fwyaf effeithlon
- rhoi dilyniant gwasanaeth i gleientiaid yn unol ag amodau'r cytundebau lefel gwasanaeth
- asesu gwybodaeth ac ystyried cyfleoedd i wella dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw
- gwirio bod gweithrediad dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw yn cydymffurfio gyda rheoliadau a chanllawiau
- dilyn camau cywirol os oes unrhyw wyriad o ddulliau a gweithdrefnau cytunedig
- gwirio bod cofnodion gwaith cynnal a chadw gaiff eu cynnal wedi'u cwblhau
- rhoi gwybod am a rhannu gydag eraill unrhyw broblemau nad oes modd eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
y rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau
sut i gysylltu systemau ac offer darlledu gyda systemau rhwydwaith
y mathau o broblemau all godi wrth weithredu systemau darlledu a chyfryngau a pham ei bod yn bwysig eu datrys mewn pryd
- yr offer a'r technegau gaiff eu defnyddio i adnabod a chywiro beth sy'n achosi diffygion mewn offer a systemau darlledu a chyfryngau
- prosesau a phrotocoliau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- amodau cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cynnal a chadw a datrys problemau
- gofynion Ansawdd Gwasanaeth technegol sy'n cael effaith ar eich gwaith a sut caiff sicrhau ansawdd ei gynnal
- gwahanol gamau'r broses gynnal a chadw
- dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw mae modd eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o offer a systemau darlledu a chyfryngau
- y potensial ar gyfer gwneud arbedion effeithlonrwydd gyda gwaith cynnal a chadw drwy gyfuno tasgau neu wneud mwy nag un gwahanol weithgaredd ar y tro
sut i weithredu a monitro system gweithio o gwmpas neu wrth gefn i gleientiaid tra bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gyflawni
sut i baratoi ar gyfer gweithredu gweithgareddau cynnal a chadw gan ddilyn archebion gwaith, rhestrau tasgau ac amserlenni
- y ffactorau i'w cydbwyso er mwyn cyflawni strategaeth gynnal a chadw ddiogel a chost effeithiol
- sut i neilltuo adnoddau i waith cynnal a chadw a sut i adnabod unrhyw offer arbenigol gaiff eu defnyddio i gynnal gwaith cynnal a chadw ar galedwedd a meddalwedd
ffynonellau gwybodaeth cynnal a chadw
sut i werthuso gwybodaeth cynnal a chadw a'r dulliau a'r gweithdrefnau gaiff eu defnyddio
rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau sefydliadol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
maint eich cyfrifoldeb chi ac i bwy ddylech chi roi gwybod os oes gennych chi broblemau na allwch chi eu datrys
Cwmpas/ystod
gwahanol gamau'r broses gynnal a chadw
- cadarnhau symptomau
- datgysylltu offer
- symud i'r ardal gynnal a chadw
- datgymalu, dod o hyd i ddiffygion
- tynnu cydrannau
- ailosod
- cyflunio meddalwedd
- profi
ailosod
comisiynu
- trosglwyddo
**
ffactorau i gydbwyso strategaeth gynnal a chadw** gan gynnwys
- faint o frys sydd amdano a pha mor hanfodol ydy o yn y broses gynhyrchu
- amserlenni a therfynau amser
- amodau amgylcheddol
- amodau gweithredol
- amser cymedrig rhwng methiannau
- pethau annisgwyl sydd eu hangen
- awdurdod priodol
ffynonellau gwybodaeth cynnal a chadw gan gynnwys
- dogfennaeth gweithdrefnau
- dogfennaeth offer/ardal
- adborth gan y rheiny sy'n cynnal y gwaith cynnal a chadw
- cofnodion gwaith wedi'u cwblhau
- cerrig milltir a thargedau
- canlyniadau profion cydymffurfio technegol