Penderfynu ar ofynion cynnal a chadw ar gyfer offer neu systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE7
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phenderfynu ar ofynion cynnal a chadw ar gyfer offer neu systemau darlledu a chyfryngau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gafael ar wybodaeth am offer a systemau darlledu a chyfryngau sydd i'w cynnal a chadw
- asesu nodweddion cynnal a chadw hanfodol gan ddefnyddio gwybodaeth o ddyluniadau a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
- cael gafael ar wybodaeth i egluro agweddau o waith cynnal a chadw offer a systemau darlledu a chyfryngau
- rhagnodi meini prawf ansawdd ac adolygu dulliau prosesau cynnal a chadw
- adnabod a chadarnhau newidiadau sydd eu hangen ar offer, systemau darlledu a chyfryngau a'u defnydd i gwrdd â gofynion cynnal a chadw
- asesu'r gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer prosesau cynnal a chadw
- gwirio a chadarnhau bod gofynion cynnal a chadw yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau a chanllawiau
- cofnodi gofynion cynnal a chadw yn systemau'r sefydliad
- rhoi gwybod am a rhannu gydag eraill unrhyw broblemau na allwch chi eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r gwahanol offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth gynnal a chadw offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau
- pam ei bod yn bwysig lleihau amser segur offer a systemau
- egwyddorion a phrotocolau gwaith cynnal a chadw rhwydwaith
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu gyda systemau rhwydwaith
- mathau o broblemau allai godi wrth weithredu systemau darlledu a chyfryngau
- sut i flaenoriaethu a datrys problemau gweithredol a materion cynnal a chadw eraill mewn pryd
- yr offer a'r technegau i'w defnyddio i adnabod a chywiro beth sy'n achosi diffygion mewn offer a systemau darlledu a chyfryngau
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
- amodau cytundebau lefel gwasanaeth a gofynion Ansawdd Gwasanaeth sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw a datrys problemau
- sut i gael gafael ar ddogfennaeth weithredol, swyddogaethol a manylebau
- sut i adolygu a dehongli manylebau, dyluniadau a goddefiannau yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- y nodweddion cynnal a chadw sy'n hanfodol yn benodol i'r offer neu system ddarlledu a chyfryngau
- gwahanol gamau o waith cynnal a chadw, gan gynnwys dod o hyd i ddiffygion, cynnal a chadw ac ail-osod
- pwysigrwydd cofnodi gofynion a gweithgareddau cynnal a chadw
- egwyddorion a phrosesau cynnal a chadw a'r gwahanol fathau o weithdrefnau cynnal a chadw fel rhai ataliol, cywirol ac atgyweirio brys
- y ffactorau **sy'n cael effaith ar y math o waith cynnal a chadw gaiff ei ddefnyddio a pha mor aml
sut caiff offer a systemau cyfryngau eu defnyddio fel rhan o'r llif gwaith yn y sefydliad
pwysigrwydd cofnodi gwybodaeth cynnal a chadw
Cwmpas/ystod
dogfennaeth weithredol, swyddogaethol a manylebau
- llawlyfrau offer
- manylebau system
- cynlluniau cynnal a chadw gwneuthurwyr
- dogfennau dylunio
- cofnodion/cronfeydd data diffygion
- gofynion rheoliadol
- manylebau swyddogaethol
- llawlyfrau gweithredol
**
y ffactorau**
- gwaith cynnal a chadw parhaus yn erbyn amnewid
- cost
- amser segur
- dibynadwyedd
nodweddion cynnal a chadw gan gynnwys
- trydanol
- electronig
- mecanyddol
- meddalwedd
- amgylcheddol
- ergonomig
- cynaliadwyedd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE7
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; cynnal a chadw; offer; systemau; prosesau;